Castell Aberedw

Castell Aberedw
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1093 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.117132°N 3.35025°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwRD029 Edit this on Wikidata

Mae olion Castell Aberedw, sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw 'Castell yn Elfael Uwch Mynydd',[1] wedi eu lleoli ym mhentref Aberedw ym Mhowys. Cafodd ei adeiladu yn hwyr yn y 12g, ac yn ôl pob tebyg wedi disodli'r castell mwnt a beili a leolwyd ychydig gannoeddd o fedrau i ffwrdd.

Cafodd y castell ei osod i Walter Heckelutel, dan Drwydded Grenellog (yr hawl i adeiladu wal sy'n cynnwys elfenau amddiffynnol), gan y Brenin Edward I o Loegr ar 24 Tachwedd 1284. Mae rhai yn awgrymu bod yr angen am Drwydded Grenellog yn foddion i'r Brenin darostwng yr arglwyddi i'w awdurdod, ond mae eraill yn anghytuno. [2] Mae hanes cynharach y castell yn ansicr. Mae rhai haneswyr wedi awgrymu bod y castell gwreiddiol wedi ei adeiladu gan y Normaniaid wrth iddynt geisio cael troedle i mewn i ddeheubarth Cymru ym 1093.[3]

Mae eraill wedi awgrymu ei fod yn gastell Cymreig yn wreiddiol. Yn sicr roedd Aberedw yn nwylo Tywysogaeth Gwynedd erbyn 1282 gan fod Llywelyn ap Gruffudd wedi gwario ei noson olaf ar dir y byw yn y castell cyn iddo deithio i Cilmeri[4] lle cafodd ei lofruddio gan Adam Francton, un o asiantau Brenin Lloegr.[5]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Roedd y castell yn adeilad hirsgwar gyda thyrau crwn 6 metr (20 troedfedd) ar bob ongl.[6] Roedd yn cael ei amgylchynu gan ffos tua 10 i 15 metr (33 i 49 troedfedd) o led. Mae'n sefyll i'r dwyrain o orlifdir Afon Gwy. Mae olion y ffos i'w gweld ar y tair ochr arall. Roedd mynediad drwy sarn ar draws y ffos ar yr ochr ddwyreiniol. Mae rhai arwyddion o adeiladau mewnol yn goroesi. Mae olion llithrennau geudy (fath o doiled) yn y tyrau dwyreiniol. Mae'r adeilad bellach yn adfail. Cafodd y rhan fwyaf o ochr orllewinol y castell ei ddinistrio wrth adeiladu rheilffordd yn y 19eg ganrif. Cafodd llawer o gerrig y castell eu defnyddio ar gyfer gosod sylfeini'r trac.[7] Mae'r adfeilion mewn cyflwr gwael iawn ac mae erydu yn parhau i achosi difrod i'r safle.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Philip Davis (2007-01-20). "Aberedw Castle". The Gatehouse. Cyrchwyd 2016-04-28.
  2. "English Licences to Crenallate Some Analysis". The Gatehouse. 2007-01-20. Cyrchwyd 2007-05-03.
  3. "Fforest Fields". Fforestfields.Co.Uk. 2006-08-03. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-12-08. Cyrchwyd 2007-02-14. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Ymddiriodolaeth Archealegol Clwyd Powys - Aberedw adalwyd 21/05/2018
  5. Melesina Bowen (2003). "British Women Romantic Poets Project". University of California. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-07. Cyrchwyd 2007-05-03.
  6. Philip Davis (2007-01-20). "Site Types in the Listings". The Gatehouse. Cyrchwyd 2007-05-03.
  7. Marvin Hull. "Castle Preservation: Vanished Castles". Castles Unlimited. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 June 2007. Cyrchwyd 2007-05-03. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)