Math | castell, safle archaeolegol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cydweli |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 19.4 metr |
Cyfesurynnau | 51.739408°N 4.305735°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CM002 |
Saif Castell Cydweli yn nhref Cydweli, wrth aber Afon Gwendraeth Fach yn Sir Gaerfyrddin. Codwyd y castell gan yr arglwydd Normanaidd, William de Londres, tua'r flwyddyn 1100, i reoli Cwmwd Cydweli yn y Cantref Bychan.
Yn ymyl y castell yn 1136 ymladdwyd Brwydr Maes Gwenllian rhwng Gwenllian, gwraig Gruffudd ap Rhys o Caeo, a Maurice de Londres. Lladdwyd y dywysoges yn y frwydr.
Cipiodd yr Arglwydd Rhys y castell ar ddechrau'r 1190au.
Yn 1231 fe'i cipiwyd gan Llywelyn Fawr yn ystod ei ymgyrch mawr yn y de.
Ar 23 Mai 1991 dadorchuddiwyd gofeb er cof am Gwenllian yn y castell. Codwyd yr arian at hyn gan Ferched y Wawr ledled Cymru. Arweiniwyd y seremoni gan Gwynfor Evans.
Roedd buddugoliaeth Byddin y Cymry dros y Saeson ym Mrwydr Cydweli yn un eithriadol o bwysig.[1]
Roedd yn un o gyfres o ymgyrchoedd a arweiniwyd gan y Tywysog Llywelyn yn erbyn y Saeson (neu'r 'Anglo-Normaniaid') ac yn dilyn yn agos at fuddugoliaeth y Cymry ym Brwydr Coed Llathen a chipio nifer o gestyll yn ôl i feddiant Llywelyn, gan gynnwys Talacharn, Llansteffan ac Arbeth. Ym Mrwydr Cydweli, arweiniwyd y Saeson gan Patrick de Chaworth. Cyfeiria'r Annales Cambriae at y frwydr hon.