![]() | |
Math | castell ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystâd Castell Ruthin ![]() |
Lleoliad | Rhuthun ![]() |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 76.8 metr, 79.2 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.112181°N 3.311737°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Dafydd ap Gruffudd ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE022 ![]() |
Hen gastell yn nhref hanesyddol Rhuthun, Sir Ddinbych, ydy Castell Rhuthun. Mae'n gymysgedd o olion adeiladu o wahanol oesoedd: fe'i hadeiladwyd yn gyntaf ar olion Caer Gymreig tuag 1280 gan Dafydd ap Gruffudd brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Cafodd ei ddymchwel ar ôl Rhyfel Cartref Lloegr. Fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19eg ganrif.
Mae Castell Rhuthun ar safle a ddefnyddiwyd yn gyntaf fel caer o'r Oes yr Haearn. Yn 1277, rhoddodd Edward I, brenin Lloegr y tir i Dafydd ap Gruffudd fel diolch am ei gymorth yn ystod goresgyniad Gogledd Cymru. Yn wreiddiol, cafodd y castell yr enw Cymraeg Castell Coch yn yr Gwernfor.
Roedd y castell yn fwyaf nodedig fel cartref cangen o'r teulu bonheddig De Grey a roddwyd y teitl "Barwniaid Grey de Ruthyn" a phennaeth arglwyddiaeth marcher Dyffryn Clwyd. Roedd yn ganolfan i Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn - y dyn y gellid dweud iddo sbarduno gwrthryfel Owain Glyn Dŵr.