Caswallawn fab Beli

Caswallawn fab Beli
Ganwyd1 g CC Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
Bu farwc. 30 CC Edit this on Wikidata
Efrog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd milwrol, llywodraethwr Edit this on Wikidata
SwyddBrenin llwyth Celtaidd
RhagflaenyddBeli Mawr, Brenin y Catuvellauni
OlynyddTenewan (mab i frawd Caswallawn, sef Lludd fab Beli)
TadBeli Mawr

Caswallawn fab Beli neu Caswallon yw'r cymeriad a ymddangosir yn y Mabinogi a adnabyddir fel y ffigwr hanesyddol Cassivelaunus. Roedd yn frenin ar y Brythonaidd ac yn debygol y llwyth Celtaidd y Catuvellauni, a fu'n brif wrthwynebydd Iŵl Cesar pan ymosododd ar Brydain yn 54 CC.

Ffigwr hanesyddol

[golygu | golygu cod]

Yn gyffredinol, derbynir y cysylltiad rhwng Caswallawn mab Beli gyda brenin Belgaidd hanesyddol y Catuvellauni, sef Cassivellaunos. Arweiniodd Cassivellaunos gydffederasiwn yn erbyn Iŵl Cesar yn 54 CC.[1]

Cymeriad y Mabinogi

[golygu | golygu cod]
Peintiad allan o Brut y Brenhinedd (Llsgr. Peniarth 23C) LL. G. C.

Mae'r cymeriad Caswallawn o bosib yn gread canol oesol wedi'i selio ar Cassivelaunos neu yn gôf gwirioneddol traddodiadol o'r ffigwr hanesyddol. Sonir am wrthwynebiad Caswallawn i'r Rhufeiniaid yn gyson yn Trioedd Ynys Prydain ac hefyd yn y chwedl Mabinogi, Branwen.[1]

Yn ôl triawd 35, erlidiodd Caswallawn y Rhufeiniaid o Brydain, a’i fyddin yn un o’r Tri Aryanllu na fyth yn dychwelodd. Mae trioedd 67 a 71 yn cyfleu Caswallawn fel carwr mewn cuddwisg crydd wrth chwilio am Fflur. Yn triawd 38, enwir ei geffyl yn Meinlas; a ellir ei gymharu gyda 59a sydd o bosib yn cyfeirio at brofiad Caswallawn gyda'r Rhufeiniaid lle chwareir ei geffyl Meinlas ran amlwg.[1]

Cymeriad sy'n ymddangos ym Mhedair Cainc y Mabinogi yw Caswallawn fab Beli. Roedd yn fab, yn ôl traddodiad i Beli Mawr mab Mynogan.

Yn yr ail gainc, Branwen ferch Llŷr, pan aeth Bendigeidfran a'i lu drosodd i Iwerddon i ddial cam Branwen, gadawodd saith gŵr ar ôl i warchod ei deyrnas dan awdurdod Caradog fab Brân. Pan ddychwel gweddillion byddin Brân, maent yn darganfod fod Caswallawn wedi lladd y rhain, gan ddefnyddio clogyn hud fel na ellid ei weld, a'i fod wedi ei wneud ei hun yn frenin ar Ynys Prydain. Yn y drydedd gainc, chwedl Manawydan fab Llŷr, mae Pryderi a Manawydan yn teithio i wneud gwrogaeth i Gaswallon.

Ceir cyfeiriad ato hefyd yn chwedl Lludd a Llefelys; lle mae'r ddau brif gymeriad yn frodyr iddo. Ymddengys hefyd yn rhai o'r Trioedd. Yn Historia Regum Britanniae, cyfeiria Sieffre o Fynwy at arwr o'r enw Cassibelaunus filius Heli, a roir ei enw yn yr addasiadau Cymraeg o waith Sieffre fel Caswallawn mab Beli Mawr.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Bromwich, Rachel (2014-11-15). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 305–306. ISBN 978-1-78316-146-1.