Enghraifft o: | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Blanco y Negro Records |
Dod i'r brig | 1992 |
Dechrau/Sefydlu | 1992 |
Genre | roc amgen, ôl-Britpop |
Yn cynnwys | Cerys Matthews, Mark Roberts |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Band Cymreig oedd Catatonia. Yr aelodau oedd Cerys Matthews, Mark Roberts, Paul Jones, Owen Powell, Aled Richards, Dafydd Ieuan, Clancy Pegg a Kris Jenkins, roedd Jevon Hurst yn gyn-aelod. Daethant i'r amlwg yn y Deyrnas Unedig tuag at ddiwedd y 1990au. Roedd Cerys Matthews yn canu, Mark Roberts ar gitâr, Paul Jones ar gitâr fâs (y ddau hefyd yn gyn-aelodau o'r Ffyrc, Sherbet Antlers a'r Cyrff), Owen Powell ar gitâr, ac Aled Richards (sydd heddiw'n drymio ar gyfer Amy Wadge) ar y drymiau. Roberts oedd y prif ysgrifennwr caneuon. Newidiodd aelodau'r band yn aml ar y cychwyn, gan gynnwys Clancy Pegg (a ymunodd â'r Tystion yn hwyrach) ar yr allweddellau, Dafydd Ieuan a Kris Jenkins (o'r Super Furry Animals) ar drymiau ac offerynnau taro, cyn setlo ar y ffurf diweddaraf yn 1995.
Cyfarfu Cerys Matthews â Roberts yng Nghaerdydd y tro cyntaf, pan oedd Cerys yn bysgio, dechreuont ysgrifennu caneuon gyda'i gilydd yn 1992. Pedair mlynedd yn ddiweddarach roeddent mewn perthynas â'i gilydd, â sawl agwedd o'r berthynas yn dod i'r amlwg yn eu caneuon ar y pryd.[1]
Daeth y cwpl ar draws y gair catatonia, yn credu iddo ystyr mwynhad eithafol a chwsg, enw gwreiddiol y band oedd 'Sweet Catatonia'. Wedi darganfod gwir ystyr y gair (hynny yw, symptom seiciatreg o rai anhwylderau meddyliol), cafwyd gwared ar y gair 'sweet'.[2]
Dim ond pump sengl Gymraeg/dwyieithog ryddhaodd Catatonia, ac International Velvet oedd yr unig un i gael ei gynnwys mewn albwm. Ymddangosodd y lleill i gyd ar Ochrau B a chasgliadau EP.
Wedi dod yn enwog, roedd Cerys Mathews yn ei chael yn anodd ymdopi gyda'r pwysau. Roedd hi'n dioddef o flinder a gohiriwyd sawl taith gyngherddau, a bu dirywiad yn y berthynas rhwng aelodau'r band. Ar 21 Medi, 2001, ar ôl rhyddhau'r albym Paper Scissors Stone, gwahanodd y band yn swyddogol.
Rhyddhaodd Cerys ei halbym gyntaf solo, Cockahoop, yn mis Mai 2003. Rhyddhawyd ei hail albym Never Said Goodbye ym mis Awst 2006.
Teitl y gân | Clip sain | Blwyddyn cyhoeddi | Rhif Catalog |
---|---|---|---|
Difrychwelyd | 1998 | CRAI CD064 | |
Dimbran | 1998 | CRAI CD064 | |
Fall Beside Her | 1998 | CRAI CD064 | |
For Tinkerbell | 1998 | CRAI CD064 | |
Gyda Gwen | 1998 | CRAI CD064 | |
Hooked | 1998 | CRAI CD064 | |
New Mercurial Heights | 1998 | CRAI CD064 | |
Sweet Catatonia | 1998 | CRAI CD064 | |
Gyda Gwen | 1999 | SAIN SCD 2190 |