Cecelia Ahern

Cecelia Ahern
Ganwyd30 Medi 1981 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Man preswylSwydd Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Alma mater
  • Coleg Griffith, Dulyn
  • Pobalscoil Neasáin Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, nofelydd, sgriptiwr, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPS, I Love You, Love, Rosie, If You Could See Me Now, A Place Called Here, Thanks for the Memories Edit this on Wikidata
Arddullnofel ramant Edit this on Wikidata
TadBertie Ahern Edit this on Wikidata
MamMiriam Ahern Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.cecelia-ahern.com Edit this on Wikidata

Awdures o Iwerddon yw Cecelia Ahern (ganwyd 30 Medi 1981) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, nofelydd a sgriptiwr.

Fe'i ganed yn Nulyn ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Griffith, Dulyn.[1][2][3][4]

Mae'n nodelydd poblogaidd, o ran gwerthiant ei llyfrau, ac yn adnabyddus am: PS, I Love You, Love, Rosie, If You Could See Me Now, A Place Called Here a Thanks for the Memories. Erbyn 2019 roedd wedi cyhoeddi ei gwaith mewn bron i hanner cant o wledydd, ac mae wedi gwerthu dros 25 miliwn o gopïau o'i nofelau ledled y byd. Mae dau o'i llyfrau wedi'u haddasu'n ffilmiau epig.

Mae hi a'i llyfrau wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Llyfr Iwerddon am Ffuglen Boblogaidd am ei chyfrol The Year I Met You. Cyhoeddodd sawl nofel ac mae wedi cyfrannu nifer o straeon byrion at flodeugerddi amrywiol. Sgwennodd a chynhyrchodd Ahern y comedi Samantha Who? (ABC), yn serennu Christina Applegate.

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Mae Ahern yn ferch i gyn-Taoiseach Iwerddon, Bertie Ahern. Priododd ei chwaer hŷn, Georgina Ahern, â Nicky Byrne o'r grŵp pop Gwyddelig Westlife. Yn 2000, roedd Cecelia Ahern yn rhan o’r grŵp pop Gwyddelig Shimma, a orffennodd yn drydydd yn rownd derfynol genedlaethol Iwerddon ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision.

Ahern yn Frankfurt; 2018

Cyn dechrau ei gyrfa ysgrifennu a chynhyrchu, enillodd radd mewn Newyddiaduraeth a Chyfathrebu â'r Cyfryngau o Goleg Griffith Dulyn, ond tynnodd yn ôl o gwrs gradd Meistr i ddilyn ei gyrfa fel awdur.[5] [6][7]

Yr awdur

[golygu | golygu cod]

Yn 2002, pan oedd Cecelia Ahern yn un ar hugain oed, ysgrifennodd ei nofel gyntaf, PS, I Love You (2004) a fu'r gwerthwr gorau yn Iwerddon am 19 wythnos, ac yn Rhif Un hefyd yng ngwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau, yr Almaen a'r Iseldiroedd. Erbyn 2019 roedd yn cael ei werthu mewn dros 40 o wledydd. Addaswyd y llyfr fel ffilm wedi'i gyfarwyddo gan Richard LaGravenese ac yn serennu Hilary Swank a Gerard Butler. Fe'i rhyddhawyd yn yr Unol Daleithiau ar 21 Rhagfyr 2007.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Storiau byrion

[golygu | golygu cod]
  • 24 Minutes in Moments (2004)
  • Next Stop: Table For Two in Short and Sweet (2005)
  • The Calling in Irish Girls Are Back In Town (2005)
  • Mrs. Whippy (2006)
  • The End in Girls' Night In (2006)
  • Girl In The Mirror (2010)
  • Roar: Thirty Women, Thirty Stories (2018)

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb145474602. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/20dhn6gl10st223. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb145474602. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Gorffennaf 2024.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2015. "Cecelia Ahern". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cecelia AHERN". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cecelia Ahern". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cecelia Ahern". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cecelia Ahern". "Cecelia Ahern". "Cecelia Ahern". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014
  5. Jarlath Regan (20 Rhagfyr 2015). "Cecelia Ahern". An Irishman Abroad (Podleiad) (arg. 118). SoundCloud. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2015.
  6. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 31 Mawrth 2015
  7. Galwedigaeth: http://shepfromtamp.com/2014/05/01/love-rosie-official-teaser-trailer-2/. http://www.iftn.ie/distribution/?act1=record&only=1&aid=73&rid=4281442&tpl=archnews&force=1. http://www.tv.com/shows/samantha-who/cast/. http://www.iftn.ie/distribution/?act1=record&only=1&aid=73&rid=4281442&tpl=archnews&force=1. http://shepfromtamp.com/2014/05/01/love-rosie-official-teaser-trailer-2/. http://www.tv.com/shows/samantha-who/cast/.