Math | rhostir, llwyfandir, gweundir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 54 km² |
Uwch y môr | 516 metr |
Cyfesurynnau | 52.55°N 2.84°W |
Hyd | 11.26 cilometr |
Cyfnod daearegol | Cwaternaidd |
Deunydd | tywodfaen |
Llwyfandir rhostir yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Cefn Hirfynydd[1] neu'r Long Mynd.[2] Mae'n rhan o Fryniau Swydd Amwythig, sydd wedi'u dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'n gorwedd rhwng y Stiperstones i'r gorllewin a Bryniau Stretton a Chefn Gweunllwg i'r dwyrain. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar lawer o'r ardal ac yn ei rheoli.
Mae'r llwyfandir tua 7 milltir (11 km) o hyd a 3 milltir (5 km) o led. Mae ganddo gymoedd serth ar ei ochrau dwyreiniol; mae llethr hir i'w ochr orllewinol yn codi mewn tarren serth. Pole Bank (1,693 tr, 516 m; cyfeiriad grid SO415944) yw ei gopa uchaf. Church Stretton yw'r prif anheddiad yn yr ardal.