Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,030, 980 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,368.34 ha |
Cyfesurynnau | 52.0448°N 4.5242°W |
Cod SYG | W04000496 |
Cod OS | SN268416 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Cenarth (neu Genarth Mawr fel y'i gelwid yn yr Oesoedd Canol), gyda rhan o'r pentref yng Ngheredigion. Saif yn agos i'r ffin a Sir Benfro hefyd, gyda naill ochr a llall y pentref ar ddwy lan Afon Teifi, 10 km i'r dwyrain o Aberteifi a 4 km i'r gorllewin o Gastell Newydd Emlyn.
Mae'r rhan fwyaf o’r ardal i'r de o Afon Teifi, yng nghantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch Cuch. Cenarth Mawr oedd canolfan cwmwd Emlyn Uwch-Cych erbyn y 1100au, a sefydlwyd castell mwnt a beili (Parc-y-domen erbyn heddiw) yma yn dilyn ymosodiadau a gwladychu rhan o'r ardal gan yr Eingl-Sacsoniaid. Parc-y-domen, a leolir ychydig i'r de o'r eglwys leol oedd y ganolfan weinyddol. Erbyn y 1130au roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry ac felly y bu trwy'r 12g a'r 13g.[1]
Mae Rhaeadr Cenarth yn fan adnabyddus ac yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr - sef un o'r prif resymau dros ddatblygiad y pentref yn ystod y cant a hanner o flynyddoedd diwethaf. Ychydig iawn o dai annedd oedd yma hyd at ddiwedd y 18g, fodd bynnag. Defnyddir cyryglau ar Afon Teifi hyd heddiw. Ceir disgrifiad gan Gerallt Gymro yn y 1180au fod Cenarth yn "safle pysgota eogiaid ffyniannus" a nodir fod yno "eglwys a gysegrwyd i Sant Llawddog, melin, pont a'i safle pysgota a gardd hynod ddeniadol i gyd ar ddarn bach o dir".
Cynrychiolir Cenarth yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[2][3]
Eglwys Llawddog, Cenarth, oedd canolfan eglwysig bwysicaf cantref Emlyn ac fe'i disgrifir mewn testun o Siarteri Llandaf, sy'n dyddio o'r 6 Cysegrwyd yr eglwys, fel yr awgryma'r enw, i Sant Llawddog. Fe'i hailadeiladwyd yn y 19g wrth i'r pentref dyfu. 140m i lawr yr allt o'r eglwys, ger yr afon, mae Ffynnon Llawddog (NPRN 418381).
O flaen prif ddrws yr eglwys ceir carreg bwysig a safodd yn wreiddiol mewn cae gerllaw'r eglwys, cyn ei symud yma yn 1894.[4] Carreg Gellidywyll yw'r enw lleol arni, a cheir stori o 1776 yn y Gentlemen's Magazine i Arglwydd Cawdor ddod a hi yma, o Blasty Gellidywyll. Ond cred y trigolion lleol yw iddi unwaith sefyll ym Mharc y Maen Llwyd, ger yr eglwys. Yn ôl Lewis Morris yn 1743 safodd y garreg ym Maenclochog - ugain milltir i ffwrdd - "ar ochr y ffordd ger Bwlch y Clawdd". Morris a gofnododd yr ysgrif ar y garreg yn gyntaf.
Y geiriad Hen Wyddeleg yw:
sef 'Curcagnus, mab Andagelli'. Yn Llandeilo Llwydiarth ger Maenclochog ceir carreg arall ac arni ysgrifen ogam i goffau Andagelli, ac mae'n gwbwl bosibl mai'r un person ydoedd.
Mae'r dyddiad ar fwa'r prif fynedfa i'r fynwent a'r eglwys yn nodi'r dyddiad 1855, ac yn coffau diwedd Rhyfel y Crimea.
Mae'r fedyddfaen o'r 12g hwyr i'r 13g ac wedi'i chludo yma o Landysiliogogo (NPRN 400361) yn y 19g. Mae siap crwn i'r fasn (neu'r fowlen) a cheir pedwar pen person ar ochrau'r fedyddfaen, yn debyg iawn i'r rhai a geir yn Eglwysi Sant Sulien, Silian (NPRN 402554) a Sant Padrig, Pencarreg (NPRN 418382). Mae'n mesur 52 modfedd mewn cylchred, 14 modf y tu fewn i'r fowlen a dyfnder o 12 modfedd. Bu yma fedyddfaen cyn hon, un sgwar gydag ymylon fel ymyl cocos a ddyddiwyd i'r 13g ac a gludwyd oddi yma i Eglwys Sarnau ac yna i Eglwys Sant Mihangel, Penbryn (NPRN 105363) lle mae heddiw.
Ceir hen ywen oddi fewn i wal garreg ar siap cylch o flaen Carreg Gellidywyll. Yn 2005 roedd tair i'r boncyff, tair rhan o'r goeden wreiddiol. Ers hynny bu farw dwy ran, ond mae'r drydedd wedi tyfu'n goeden gref, ac yn 2014 roedd yn mesur 8.25 metr (27' 1") o amgylch ei chanol ac fe'i chofrestrwyd fel coeden 'hynafol'.[5]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Trefi
Caerfyrddin · Castellnewydd Emlyn · Cydweli · Hendy-gwyn · Llandeilo · Llanelli · Llanybydder · Llanymddyfri · Porth Tywyn · Rhydaman · Sanclêr · Talacharn
Pentrefi
Aberarad · Aberbowlan · Abercrychan · Abergorlech · Abergwili · Aber-nant · Alltwalis · Babel · Bace · Bancycapel · Bancyfelin · Y Betws · Bethlehem · Blaengweche · Blaenos · Blaen-waun · Blaen-y-coed · Brechfa · Broadway · Bronwydd · Bron-y-gaer · Bryn · Brynaman · Bryn Iwan · Bwlch-clawdd · Bwlchnewydd · Bynea · Caeo · Capel Dewi · Capel Gwyn · Capel Hendre · Capel Isaac · Capel Iwan · Capel Seion · Carmel · Carwe · Cefn-bryn-brain · Cefneithin · Cefn-y-pant · Cenarth · Cilgwyn · Cilsan · Cil-y-cwm · Croesyceiliog · Cross Hands · Crug-y-bar · Crwbin · Cwm-ann · Cwm-bach (1) · Cwm-bach (2) · Cwm-du · Cwmduad · Cwmfelin-boeth · Cwmfelinmynach · Cwmgwili · Cwmhiraeth · Cwmifor · Cwmisfael · Cwmllyfri · Cwm-miles · Cwm-morgan · Cwm-pen-graig · Cwrt-henri · Cwrt-y-cadno · Cynghordy · Cynheidre · Cynwyl Elfed · Derwen-fawr · Derwydd · Dinas · Dolgran · Dre-fach · Dre-fach Felindre · Dryslwyn · Dyffryn Ceidrych · Efail-wen · Esgair · Felin-foel · Felin-gwm · Felin-wen · Foelgastell · Ffair-fach · Ffaldybrenin · Ffarmers · Fforest · Ffynnon · Garnant · Garthynty · Gelli-aur · Gelli-wen · Glanaman · Glan Duar · Glan-y-fferi · Gorllwyn · Gors-las · Gwernogle · Gwyddgrug · Gwynfe · Hebron · Yr Hendy · Henllan · Henllan Amgoed · Hermon · Horeb · Login · Llanarthne · Llanboidy · Llan-dawg · Llandeilo Abercywyn · Llandre (1) · Llandre (2) · Llandybïe · Llandyfaelog · Llandyry · Llanddarog · Llanddeusant · Llanddowror · Llanedi · Llanegwad · Llanfair-ar-y-bryn · Llanfallteg · Llanfihangel Aberbythych · Llanfihangel Abercywyn · Llanfihangel-ar-Arth · Llanfihangel-uwch-Gwili · Llanfynydd · Llangadog · Llan-gain · Llangathen · Llangeler · Llangennech · Llanglydwen · Llangyndeyrn · Llangynin · Llangynnwr · Llangynog · Llanishmel · Llanllawddog · Llan-llwch · Llanllwni · Llanmilo · Llannewydd · Llannon · Llanpumsaint · Llansadwrn · Llan-saint · Llansawel · Llansteffan · Llanwinio · Llanwrda · Llan-y-bri · Llanycrwys · Llwyn-croes · Llwynhendy · Llwyn-y-brain (1) · Llwyn-y-brain (2) · Maenordeilo · Maerdy · Maes-y-bont · Marros · Meidrim · Meinciau · Merthyr · Morfa · Myddfai · Mynydd-y-garreg · Nantgaredig · Nant-y-caws · New Inn · Pant-gwyn · Pantyffynnon · Parc-y-rhos · Pedair Heol · Pen-boyr · Pen-bre · Pencader · Pencarreg · Peniel · Penrherber · Penrhiw-goch · Pentrecagal · Pentrecwrt · Pentrefelin · Pentre Gwenlais · Pentre Tŷ-gwyn · Pentywyn · Pen-y-banc · Pen-y-bont (1) · Pen-y-bont (2) · Pen-y-garn · Pen-y-groes · Pinged · Plas · Pont Aber · Pontaman · Pontantwn · Pont-ar-Gothi · Pont-ar-llechau · Pont-ar-sais · Pont Hafod · Pont-henri · Pont-iets · Pont-tyweli · Pontyberem · Porth-y-rhyd · Pum Heol · Pumsaint · Pwll · Pwll-trap · Ram · Rhandir-mwyn · Rhos · Rhosaman · Rhos-goch · Rhos-maen · Rhydargaeau · Rhydcymerau · Rhyd Edwin · Rhydowen · Rhyd-y-wrach · Salem · Sandy · Sarnau · Saron (1) · Saron (2) · Soar · Sylen · Taliaris · Talog · Talyllychau · Tir-y-dail · Trap · Trefechan · Trelech · Trimsaran · Twynllannan · Tŷ-croes · Y Tymbl · Waunclunda · Waun y Clyn · Ystrad Ffin