Cenedlaetholdeb Catalanaidd, a elwir hefyd yn Catalanisme, yw'r symudiad gwleidyddol sy'n ystyried bod Catalwnia yn genedl sydd â hawl i annibyniaeth neu hunanlywodraeth. Coleddir yr ideoleg yma gan bleidiau adain-chwith, canol ac adain-dde.
Nid yw pob plaid genedlaethol yn hawlio annibyniaeth lwyr ar Sbaen; mae'r blaid Convergència Democràtica de Catalunya yn dadlau fod Catalwnia yn genedl sydd â'r hawl i benderfynu ei dyfodol ei hun, ond o blaid Sbaen ffederal yn hytrach nag annibyniaeth. Ar y llaw arall, mae'r Esquerra Republicana de Catalunya yn galw am annibyniaeth.
Ym marn y mwyafrif o'r pleidiau sy'n ceisio annibyniaeth, mae "Catalwnia" yn cynnwys nid yn unig Cymuned Ymreolaethol Catalwnia ond y tiriogaethau eraill lle siaredir Catalaneg, a elwir y Països Catalans ("gwledydd Catalanaidd), yn cynnwys y rhan fwyaf o'r Comunidad Valenciana, yr Ynysoedd Balearig, rhan o Aragón a Rosellón yn Ffrainc, a elwir yn Ogledd Catalwnia.
Yn ystod than gyntaf yr 20g, y prif fudiad cenedlaethol oedd y Lliga Regionalista. Sefydlwyd y Mancomunitat de Catalunya, oedd yn cynnwys y pedair talaith Gatalanaidd, gyda rhywfaint o bwerau gweinyddol. Daeth hwn i ben dan unbennaeth Miguel Primo de Rivera. Yn 1931, enillodd yr Esquerra Republicana de Catalunya yr etholiaad yng Nghatalwnia, a sefydlwyd llywodraeth Gatalanaidd gyda mesur o hunanlywodraeth dan yr enw Generalitat de Catalunya.
Parhaodd hyn tan fuddugoliaeth lluoedd Francisco Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen. Tua diwedd y rhyfel, roedd arlywydd y Generalitat, Lluís Companys, wedi cyhoeddi annibyniaeth Catalwnia. Ar ddiwedd y rhyfel, bu raid i Companys ffoi i Ffrainc. Wedi i Ffrainc gael ei meddiannu gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, trosglwyddwyd Companys i lywodraeth Franco, a dienyddiwyd ef.
Bu farw Franco yn 1975, a dychwelodd olynydd Companys, Josep Tarradellas, i Sbaen yn 1977. Ail-sefydlwyd y Generalitat, ac yn 1980 daeth Jordi Pujol o'r Convergència Democràtica de Catalunya yn arlywydd. Yn 2006, cynhaliwyd refferendwm ar newid Ystatud Hunanlywodraeth Catalwnia 1979 i roi mwy o bwerau i'r Generalitat, a chytunwyd i hyn gan 73.24% o'r rhai a bleidleisiodd, er mai dim ond 48.84% o'r etholwyr a bleidleisiodd.