Cenedlaetholdeb Prydeinig

Ideoleg genedlaetholgar yw cenedlaetholdeb Prydeinig sy'n seiliedig ar y gred fod "Prydain" - h.y. y Deyrnas Unedig - yn wlad a bod pobloedd Prydain yn ffurfio un genedl. Ceiff yr ideoleg neu gred hon ei mynegi mewn sawl ffordd. Byddai rhai yn galw ymagwedd Brydeingar gwleidyddion fel Margaret Thatcher, Tony Blair a Gordon Brown yn amlygiad o genedlaetholdeb Prydeinig, ond fe'i cysylltir hefyd, ac yn bennaf efallai, gyda mudiadau asgell dde hiliol, yn cynnwys pleidiau de eithafol fel y British National Party a'r National Front.

Yn ei hanfod mae cenedlaetholdeb Prydeinig yn wrthwynebus i hawl Cymru a'r Alban i fod yn wledydd annibynnol ac felly'n cynrychioli'r gwrthwyneb i genedlaetholdeb Cymreig ac Albanaidd. Nid yw'n derbyn fod y Cymry a'r Albanwyr yn genhedloedd. Gwrthodir hefyd cenedligrwydd y Cernywiaid.

Ceir perthynas agos rhwng cenedlaetholdeb Prydeinig a chenedlaetholdeb Seisnig hefyd, yn enwedig ar yr asgell dde.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato