Ceredig ap Cunedda | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 424, 420 ![]() Gododdin ![]() |
Bu farw | 453 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Tad | Cunedda ![]() |
Priod | Meleri ach Brychan ![]() |
Plant | Iusay ap Ceredig, Sant ap Ceredig, Carranog, Ithel ap Ceredig ![]() |
Yn ôl traddodiad, un o naw mab Cunedda, a ddaeth i ogledd Cymru o'r Hen Ogledd, a sefydlydd Teyrnas Ceredigion oedd Ceredig ap Cunedda (fl. o gwmpas canol y 5g).
Credir fod ei dad Cunedda wedi mudo gyda'i ddilynwyr o'r Hen Ogledd i ogledd Cymru tua'r flwyddyn 440 OC. Fel gweddill ei deulu, hannodd Ceredig o ardal Manaw Gododdin. Sefydlodd Cunedda Deyrnas Gwynedd a roddodd dir i'w feibion ar ôl gyrru allan y Gwyddelod.
Daeth y wlad a adnabyddir fel Ceredigion i ran Ceredig, yn ôl yr hanes, ond mae haneswyr diweddar yn amau dilysrwydd y traddodiad hwnnw gan fod hanes cynnar Cymru yn frith o chwedlau tebyg a luniwyd i esbonio enwau lleoedd.
Os gwir yr hanes, roedd gan Ceredig wyth o frodyr, sef:
![]() |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |