Cerrig Collwyn

Cerrig Collwyn
Mathcraig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWilliam Pitt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0414°N 4.1251°W Edit this on Wikidata
Map

Cerrig Collwyn yw'r enw ar glwstwr o gerrig sydd ger yr A4085 rhwng Rhyd Ddu a Beddgelert yn Eryri, Gwynedd. Gan fod un o'r cerrig yma a siap fel proffil gwyneb dynol, fe elwir y garreg unigol honno yn Pitt's Head yn Saesneg, enw sy'n cyfeirio at Pitt yr Ieuaf, ond Cerrig Collwyn yw'r enw cywir.[1] Cyfeirnod OS: SH575515.

Arglwydd Eifionydd, Ardudwy a rhan o Lŷn oedd Collwyn. Ceir hefyd Afon Colwyn yn y cyffiniau.

Pitt's Head

[golygu | golygu cod]

Mae'r enw Saesneg "Pitt's Head" yn dyddio o'r 19eg ganrif pan ddechreuodd twristiaeth ddatblygu yn Eryri. Mae'n un o sawl enghraifft o'r cyfnod hwnnw o dwristiaid ac awduron llyfrau taith yn rhoi enwau Saesneg ar "atyniadau" Cymreig gan anwybyddu'r enwau Cymraeg cynhenid, e.e. "Swallow Falls", "Fairy Glen" (enw ar nentydd sy'n gyffredin yn Lloegr hefyd), Druids' Circle ac ati.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hynodion Gwlad y Bryniau. Steffan ab Ioan. Cyfres Llafar Gwlad rhif 48 tudalen 7.

Darllen bellach

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato