Cerrigydrudion

Cerrigydrudion
Canol pentref Cerrigydrudion
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth740, 716 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6,128.09 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.026°N 3.562°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000112 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cerrigydrudion[1][2] (neu Cerrig-y-drudion). Saif yn ne-ddwyrain y sir yn y bryniau ar lôn yr A5, tua 8 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Corwen. Yn ogystal â'r A5, mae lôn yn cysylltu'r pentref â Rhuthun i'r gogledd-ddwyrain a Dinbych i'r gogledd. Roedd yn Sir Ddinbych gynt.

Cerrigydrudion yw'r pentref mwyaf yn ardal Uwchaled, sydd yn cynnwys yn ogystal Llangwm, Pentrefoelas, Pentre-llyn-cymer, Dinmael, Glasfryn, Cefn-brith, Llanfihangel Glyn Myfyr a Cwmpenanner. Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 75% o'r boblogaeth o 692 o bobl yn siarad y Gymraeg fel iaith bob dydd.

Yr eglwys

Mae rhai o'r bythynnod yn y pentref yn dyddio o 1717. Arosodd George Borrow yn nhafarn y Llew Gwyn ar ei ffordd o Langollen ar ei daith trwy Gymru; wrth ymarfer ei Gymraeg efo'r morwynion cafodd ei gyflwyno i Eidalwr ar daith yn y gogledd a oedd wedi dysgu Cymraeg hefyd (neu rywfaint, o leiaf).

Mae eglwys y plwyf yn gysegredig i Fair Fadlen. Yn y bryniau tua milltir i'r de-ddwyrain ceir bryngaer Caer Caradog, ond mae'n annhebygol iawn fod unrhyw gysylltiad rhyngddi â'r Caradog (Caratacus) hanesyddol.

Yn ôl etymoleg boblogaidd mae'r enw yn golygu "Cerrig y Derwyddon", ond y gwir ystyr yw "Cerrig y Dewrion".

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cerrigydrudion (pob oed) (740)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cerrigydrudion) (549)
  
77.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cerrigydrudion) (571)
  
77.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cerrigydrudion) (96)
  
30%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.