Enghraifft o'r canlynol | asanas ymestyn |
---|---|
Math | asanas gwrthdro |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana mewn ioga modern fel ymarfer corff yw Chakrasana (Sansgrit: चक्रासन; IASTCakrāsana) Yr Olwyn neu Urdhva Dhanurasana (Sansgrit: ऊर्ध्वधनुरासन; IAST: Ūrdhvadhanurāsana) sef Bwa ar i Fyny. Dosberthir yr asanas i wahanol fathau, a gelwir y math hwn yn gefnblyg. Hwn yw asana cyntaf y dilyniant Ioga ashtanga vinyasa. Credir ei fod yn ystwytho'r asgwrn cefn gan ei wneud yn fwy hyblyg. Mewn acrobateg a gymnasteg gelwir safle'r corff hwn yn 'bont'.
Daw'r enw Chakrasana o'r geiriau Sansgrit चक्र chakra, "olwyn", ac आसन āsana, "osgo neu safle'r corff". Daw'r enw Urdhva Dhanurasana o'r Sansgrit urdhva ऊर्ध्व, i fyny, a dhanura धनु, bwa (saeth).[1][2][3]
Darlunnir yr ystum hwn yn y gyfrol Sritattvanidhi (19g) fel Paryaṇkāsana, Y Glwth.[4]
Mae llawer o amrywiadau o'r ystum yn bosibl, gan gynnwys:
One poetic translation of Camatkarasana means "the ecstatic unfolding of the enraptured heart."