Charles Edwin Spooner | |
---|---|
Ganwyd | 22 Tachwedd 1853 ![]() |
Bu farw | 14 Mai 1909 ![]() Kuala Lumpur ![]() |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil ![]() |
Tad | Charles Easton Spooner ![]() |
Priod | Martha Brownrigg Chartres ![]() |
Peiriannydd oedd Charles Edwin Spooner (22 Tachwedd 1853 – 14 Mai 1908)[1] yn Hafod Tanycraig, Cymru.[2] Roedd yn drydydd mab i Charles Easton Spooner.
Cwblhaodd addysg fel peiriannydd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn ym 1874[3], ac wedyn gweithiodd o dan reolaith ei dad yng ngogledd Cymru.
Dechreuodd waith yn Adran Arolygu Ceilón ar 6 Medi 1876, yn Arolygwr Talaith y Gogledd, ac arolygodd Penrhyn Jaffnapatam ac ardal Patabilapullai. Trosglwyddwyd i Adran Gwaith Cyhoeddus ar 24 Awst 1877 ac adeiladodd ffordd trwy Bwlch Bulototta a Ffordd Laxapathy ym Maskeliya. Daeth o'n brif swyddog i'r ardaloedd Dikoya, Bojawantalawa, Maskeliya ac Ambagamawa yn Dhalaith Canolog. Symudodd i Wladfeydd y Culfor ac roedd yn Brif Beirianydd i Selangor rhwng 1892 a 1901 a threfnodd rwydwaith trydan Kuala Lumpur cyn iddo ddod yn Rheolwr Cyffredinol i reilffordd y Daleithiau Ffederal Maleia ym 1901.[4]
Bu farw Spooner yn Kuala Lumpur yn 1909.[3]
Roedd o'n gerddor ac arlunydd da.[4]