Charles Ferdinand Ramuz | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Medi 1878 ![]() Lausanne ![]() |
Bu farw | 23 Mai 1947 ![]() Lausanne ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Swistir ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, libretydd ![]() |
Adnabyddus am | Q16525537, Q16676708 ![]() |
Priod | Cécile Cellier ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Schiller, Gwobr Rambert, Gwobr Gottfried-Keller ![]() |
Gwefan | http://www.fondation-ramuz.ch ![]() |
Awdur yn yr iaith Ffrangeg ydy Charles Ferdinand Ramuz (24 Medi 1878 – 23 Mai 1947).
Ganwyd a anwyd yn Lausanne, yn y Swistir. Mae e'n ymddangos ar y SF200 arian papur ac mae Gwobr Llên y Swistir yn ei enw. Cyfieithwyd un o'i nofelau i'r Gymraeg. Mae ei waith yn canolbwyntio ar gymeriadau ei fro Valais a'r Vaud. Seilwyd ei nofel Derborence ar ddamwain lleol. Dau gan mlynedd yn ôl cafwyd daeargwymp mawr ond ar ôl rhai wythnosau daeth bugail o'r cwymp yn fyw - a dyna sail ei nofel.
Bu'n athro am cyfnod yn Weimar, Yr Almaen. Ac ym 1903 aeth i Baris tan 1914. Dychwelodd i'r Swistir ar ddechrau'r rhyfel. Cyhoeddod ei gerddi cyntaf ym 1903, "Le petit village".
Roedd yn awdur libretto i Igor Stravinsky, L'histoire du soldat.
Bu farw yn Pully ger Lausanne.
Bywgraffiad C.F. Ramuz http://pages.infinit.net/poibru/ramuz/bioramuz.htm Archifwyd 2018-12-23 yn y Peiriant Wayback
Pan gwympodd y mynydd: ('Derborence' 1936 nofel gan Charles Ferdinand Ramuz, 1878-1947) ; cyfieithwyd o'r Ffrangeg gan Gwenda Thompson a T. Ifor Rees. Abertawe : Gwasg John Penry, 1968.