Charles Francis Greville | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mai 1749 |
Bu farw | 23 Ebrill 1809 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, gwleidydd, person busnes |
Swydd | Treasurer of the Household, Vice-Chamberlain of the Household, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr |
Tad | Francis Greville |
Mam | Elizabeth Hamilton |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Hynafiaethwr, casglwr a gwleidydd oedd Charles Francis Greville PC FRS FRSE FLS FSA (12 Mai 1749 - 23 Ebrill 1809) a fu'n aelod o Dŷ'r Cyffredin rhwng 1774 a 1790.[1]
Roedd Greville yn ail fab i Francis Greville, Iarll 1af Warwick a'i wraig, Elizabeth Hamilton, merch yr Arglwydd Archibald Hamilton. Roedd George Greville, 2il Iarll Warwick a Robert Fulke Greville yn frodyr iddo ac roedd ganddo bedair chwaer. Cafodd ei fagu yng nghartref y teulu, Castell Warwick.
Roedd ei dad wedi cael ei ddyrchafu'n Iarll Brooke dair blynedd cyn iddo gael ei eni ac ym 1759 roedd wedi deisebu’n llwyddiannus i gael teitl canoloesol mawreddog llinell ddiflanedig o'i deulu, Iarll Warwick, a roddwyd iddo fel etifedd gwrywaidd hŷn y teulu ac Arglwydd Raglaw'r sir.
Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Caeredin rhwng 1764 a 1767.[2]
Roedd Greville yn byw am y rhan fwyaf o'i oes fel oedolyn ar incwm anhyblyg o ₤500 y flwyddyn, wedi'i gynhyrchu o dirfeddiant a buddsoddiadau. Roedd ei incwm yn caniatau iddo i gaffael hynafiaethau gan Gavin Hamilton yn Rhufain. Prynodd hefyd, trwy ei ewythr, ddarn genre gan Annibale Carracci.[3] Roedd Greville yn nai i Syr William Hamilton, llysgennad Prydain yn Napoli a ffurfiodd ddau gasgliad o fasys Groegaidd, mae un ohonynt yn yr Amgueddfa Brydeinig.
Fel Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, roedd ei ddiddordeb arbennig mewn mwynau a cherrig gwerthfawr, a gatalogiwyd gan yr émigré Jacques Louis, Comte de Bournon ac a brynwyd yn ddiweddarach trwy Ddeddf Seneddol gan yr Amgueddfa Brydeinig. Roedd yn ffrindiau da gyda James Smithson, a chefnogodd ei gais ar gyfer aelodaeth o'r Gymdeithas Frenhinol bu hefyd yn gyfnewid mwynau ag ef.[4]
Am flynyddoedd bu Greville yn ffrind agos iawn i Syr Joseph Banks ac, fel yntau, roedd yn aelod o'r Gymdeithas Dilettanti. Aeth gyda Banks i'r cyfarfod trefnu ym mis Mawrth 1804 o ragflaenydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, sef y Gymdeithas er Gwella Garddwriaeth.[5]
Rhoddodd Greville yr enw "Amy Lyon" i Mrs Emma Hart pan ddechreuodd cael perthynas â hi fel ei feistres ym 1782. Cynorthwyodd i'w haddysgu, ac aeth â hi i stiwdio George Romney, lle'r oedd yn eistedd am ei bortread ei hun. Cafodd Romney ei swyno gyda'r Emma hardd, a phaentiodd "luniau ffansi" alegorïaidd o Emma mewn sawl ffurf pedwar deg pump o weithiau.[6][7]
Pan fu farw ei dad ym 1773 a daeth ei frawd yn Iarll Warwick, i bob pwrpas etifeddodd Greville sedd senedd ei frawd (un o ddau oedd yn eiddo i Warwick ) yn Nhŷ’r Cyffredin. Daliodd y sedd tan 1790. Gwasanaethodd fel Arglwydd y Trysorlys rhwng 1780 a 1782, fel Trysorydd yr Aelwyd rhwng 1783 a 1784 ac fel Is-Siambrlen yr Aelwyd rhwng 1794 a 1804 a thyngwyd ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1783.
Adeiladwyd porthladd Aberdaugleddau, Sir Benfro oherwydd ysbryd entrepreneuraidd Greville. Pan oedd yn eiddo i Syr William Hamilton, gwnaeth Greville gais am Ddeddf Seneddol i alluogi Hamilton a'i etifeddion i wneud dociau, adeiladu ceiau, sefydlu marchnadoedd, gyda ffyrdd a rhodfeydd i'r porthladd, i reoleiddio'r heddlu, a'i gwneud y lle ar gyfer trosglwyddo'r post.[8] Y strwythur cyntaf oedd tafarn hyfforddi. Cafodd perchnogion llongau hela morfilod y Crynwyr [9] o Nantucket eu cymell i ymgartrefu yn y dref, ac am rai degawdau roedd Aberdaugleddau yn borthladd morfilod. Sefydlwyd iard longau brenhinol yn y porthladd yn ystod Rhyfeloedd Napoleon.[10] Ar ei farwolaeth ym 1803, gadawodd Hamilton ef i'w nai.[11]
Mewn safle ar dir uchel yn Hakin gerllaw, roedd Greville yn bwriadu adeiladu Coleg y Brenin Siôr y Trydydd i ganiatáu astudio mathemateg a llywio, y byddai ei ganolbwynt yn arsyllfa. Er i'r arsyllfa gael ei hadeiladu, a chaffael cyfarpar ac offerynnau gwyddonol ar ei chyfer, ni weithredodd y coleg ac ar ôl marwolaeth Greville ym 1809 rhoddwyd y gorau i'r prosiect yn gyfan gwbl.[12]
Ni phriododd Greville erioed, ond bu mewn cysylltiad ag Emma Hamilton am sawl blwyddyn pan erfyniodd am ei gymorth ar ôl beichiogi gyda phlentyn Syr Harry Fetherstonhaugh ym 1782 a'i gwrthod ganddo. Cymerodd Greville hi i mewn ar yr amod bod y plentyn, Emma Carew, yn cael ei maethu allan, a daeth Emma Hamilton yn feistres iddo. Yn ddiweddarach, helpodd i drefnu cyfarfod a phriodas ddilynol gyda'i ewythr Syr William Hamilton, efallai mewn ymgais i ennill ei ffafr a hefyd i glirio'r ffordd iddo (Greville) ddod o hyd i wraig gyfoethog.[7]
Bu’n byw am flynyddoedd mewn tŷ roedd wedi’i adeiladu yn wynebu Paddington Green, ar y pryd pentref ar gyrion Llundain, nid nepell o’r tŷ roedd wedi gosod Emma a’i mam ynddo. Cadwodd luniau Romney o Emma ar waliau ei dŷ hyd ei farwolaeth.[7] Yno, mynegodd ei angerdd am arddio mewn gardd fawr a ddarparwyd â thai gwydr lle tyfodd lawer o blanhigion trofannol prin, gyda chymorth ei gysylltiad â Banks. Llwyddodd i gymell Vanilla planifolia i flodeuo yno am y tro cyntaf o dan wydr, yng ngaeaf 1806 –07.[13] Mae ei gyfraniadau i'r llysieufa a gasglwyd gan Syr James Edward Smith yn cael eu cadw gan Gymdeithas Linnaean Llundain.[14] Enwir y genws Awstralasiaidd Grevillea er anrhydedd iddo.
Yn rhan olaf ei fywyd bu'n byw yng Nghastell Warwick. Bu farw ar 23 Ebrill 1809, yn 58 oed.[15]
Enwir Grevillea, genws amrywiol o tua 360 o rywogaethau o blanhigion blodeuol bytholwyrdd yn y teulu Proteaceae, ar ei ôl oherwydd ei rôl fel noddwr botaneg a chyd-sylfaenydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.[16] Enwyd Ynys Greville, ar Ynys y De Seland Newydd, er anrhydedd iddo gan Francis Barrallier, ym 1820.[17]