Charlotte Guest | |
---|---|
Ganwyd | Charlotte Bertie 19 Mai 1812 Uffington |
Bu farw | 15 Ionawr 1895, 1895 Dorset |
Man preswyl | Dowlais |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfieithydd, ieithydd, entrepreneur, llenor, casglwr celf, masnachwr |
Tad | Albemarle Bertie, 9fed Iarll Lindsey |
Mam | Charlotte Layard |
Priod | John Josiah Guest, Charles Schreiber |
Plant | Ivor Bertie Guest, Barwn 1af Wimborne, Montague Guest, Arthur Guest, Thomas Merthyr Guest, Constance Rhiannon Guest, Blanche Vere Guest, Katharine Gwladys Guest, Mary Enid Evelyn Guest, Charlotte Maria Guest, Augustus Frederick Guest |
Cyfieithydd a dyddiadur-wraig o dde Cymru oedd yr Arglwyddes Charlotte Guest (19 Mai, 1812 - 15 Ionawr, 1895). Mae hi'n enwog am ei chyfieithiad Saesneg o chwedlau'r Mabinogi a ystyrir yn glasur.
Ganwyd Charlotte yn Uffington, de Lloegr, ym 1812 yn ferch i Albemarle Bertie, Nawfed Iarll Lindsey. Ym 1835, yn 23 oed, priododd Syr Josiah John Guest (1785 - 1852). Roedd John Guest yn un o feistri diwydiannol mwyaf de Cymru ac yn perchen ar weithfeydd haearn Dowlais; roedd y briodas yn achos o "hen arian" yn priodi "arian newydd" yn hytrach na chanlyniad carwriaeth ramantus, ond bwriodd ei hun i'r bywyd Cymraeg dros nos.
Swynwyd Charlotte gan olygfeydd Cymru a gan lenyddiaeth a thraddodiadau'r Cymry eu hunain. Dysgodd y Gymraeg yn ddigon da i'w darllen ac i'w thraddodi i'w deg plentyn (peth anghyffredin iawn i rywun o'i safle cymdeithasol yn yr amser hwnnw).
Ym 1838, dechreuodd ar y gwaith o gyfieithu chwedlau'r Mabinogi i Saesneg. Cafodd gymorth gan John Jones (Tegid) a Thomas Price (Carnhuanawc) a defnyddiodd gopi llawysgrif o Lyfr Coch Hergest. Rhoddodd y teitl The Mabinogion i'r casgliad o un chwedl ar ddeg ac mae'r enw wedi aros ers hynny (dim ond Pedair Cainc y Mabinogi sy'n dwyn yr enw mewn gwirionedd). Yn ogystal â'r Pedair Cainc, Y Tair Rhamant a'r "chwedlau brodorol", ychwanegodd gyfieithiad o destun diweddar o Hanes Taliesin, sydd ddim yn y Llyfr Coch. Cyhoeddwyd y gwaith mewn tair cyfrol, a oedd yn cynnwys y testunau Cymraeg Canol hefyd, ym 1846 (cafwyd ail argraffiad poblogaidd â darluniau ym 1877, heb y testunau Cymraeg).
Er bod lle i gredu mai caboli cyfieithiadau llythrennol Tegid a Charnhuanawc a wnaeth yn hytrach na chyfieithu'r cyfan ei hun, ac er gwaethaf y ffaith fod gofynion parchusrwydd yn golygu fod ambell olygfa ddigon diniwed yn cael ei gadael allan (o'r Tair Rhamant yn bennaf), mae fersiwn Charlotte Guest o'r hen chwedlau Cymraeg yn cael eu hystyried yn glasur yn yr iaith Saesneg am ei arddull coeth a rhamantus.
Ail-briododd ym 1855 gyda Charles Schreiber, tiwtor ei mab Ivor, gan ddod yn Arglwyddes Charlotte Schreiber. Cyhoeddwyd detholiadau o'i dyddiaduron ar ôl ei marwolaeth. Ynddynt gwelir ei chydymdeimlad diffuant tuag at y gweithwyr diwydiannol yn y de a'i syniadau rhamantus am orffennol Cymru (fel llawer un arall yn ei hoes).
Daeth ei mab Ivor yn Aelod Seneddol dros Poole a Cheltenham cyn priodi Cornelia Spencer Churchill, modryb i Winston.[1]