Charlotte M. Taylor | |
---|---|
Ganwyd | 1955 Michigan |
Man preswyl | Unol Daleithiau America |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | botanegydd, curadur, casglwr botanegol, ecolegydd |
Cyflogwr | |
Priod | Roy Emile Gereau |
Mae Charlotte M. Taylor (ganwyd 1955) yn fotanegydd nodedig ac yn athro Prifysgol a aned yn Unol Daleithiau America, a'i nain yn hannu o Ogledd Cymru.[1] Un o'r sefydliadau a'i chyflogodd fel botanegydd oedd Muséum national d'histoire naturelle. Tacsonomeg yw ei harbenigedd, ynghyd â chadwraeth, yn enwedig y teulu Rubiaceae - mae coffi a Cwinin yn aelodau o'r teulu hwn o blanhigion.[2]
Dynodwr rhyngwladol yr awdur ar Gofrestr Rhyngwladol Enwau Planhigion (International Plant Names Index) yw 27568-1. Fel sy'n arferol mewn botaneg, ceir byrfodd yn hytrach nag enw llawn, pan ddyfnynir neu pan sonir am y person hwn, sef C.M.Taylor.
Mae Taylor wedi gweithio mewn nifer o wledydd, yn casglu enghreifftiau o'r planhigion e.e. Chile, Colombia, Costa Rica, Panama, ac UDA[2], ac wedi enwi nifer o rywogaethau newydd o'r gwleydd hyn. Erbyn 2015, roedd Taylor wedi enwi ac awduro 278 o enwau rhywogaethau gwahanol.[3]
Cwbwlhaodd Taylor raddau B.Sc. o Brifysgol Michigan (1978), M.Sc. o Brifysgol Duke (1982), a Ph.D. hefyd oddi yno (1987).
Ymhlith ei chasgliadau a gyhoeddwyd ganddi mae:
Mae gan Wicirywogaeth wybodaeth sy'n berthnasol i: Charlotte M. Taylor |