Enghraifft o: | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Brodorion Gwreiddiol America yn UDA |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Poblogaeth Brodorol America yw'r Chickasaw (sy'n galw eu hunain yn Chikasha). Yn wreiddiol roedden nhw'n byw yng ngogledd Mississippi a gorllewin Tennessee.[1] Cawsant eu trawsosod i Diriogaeth Indiaidd, yn ddiweddarach Oklahoma, ar Y Llwybr Dagrau ('Trail of Tears') ym 1838 a 1839 ynghyd â'r Cherokee, Siocto, Muscogee (Creek) a Seminole, yr hyn a elwir y Pum Llwyth Gwâr.[2]
Maen nhw'n siarad ieithoedd Muskogeaidd. Mae eu hiaith ysgrifenedig bron yr un fath ag iaith cenedl y Siocto; mae eu hiaith yn debyg iawn, ond mae gwahaniaethau tafodiaith. Ar un adeg roedd yr iaith Chickasaw yn gyfrwng cyfathrach fasnachol a llwythol i holl lwythau Mississippi isaf, a oedd bron yn cael ei rheoli gan genedl bwerus a rhyfelgar Chickasaw yn ystod yr 17 ac 18g.
Mae "Oklahoma" yn enw chickasaw sy'n golygu "daear goch".
Ceir sawl tref yn yr UDA a enwir wedi'r bobl frodorol yma.