Chiswick

Chiswick
Mathardal o Lundain Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Hounslow, Chiswick Urban District, Municipal Borough of Brentford and Chiswick
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd5.72 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaActon, Llundain Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4925°N 0.2633°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ205785 Edit this on Wikidata
Cod postW4 Edit this on Wikidata
Map

Maestref fawr yw Chiswick wedi ei lleoli yng ngorllewin Llundain Fwyaf, 9.7 cilometr (6 milltir) i'r gorllewin o Charing Cross ar ystum Afon Tafwys. Mae'n ffurfio rhan o Fwrdeistref Llundain Hounslow. Yn hanesyddol roedd Chiswick yn blwyf hynafol yn hen sir Middlesex, gydag economi yn dibynnu ar amaethyddiaeth a pysgota. Yn ystod twf diwydiannol Llundain yn y 19eg a'r 20g tyfodd poblogaeth Chiswick a daeth yn fwrdeistref trefol gyda Brentford ym 1932 a dod yn rhan o Lundain Fawr ym 1965. Mae Caerdydd 202 km i ffwrdd o Chiswick ac mae Llundain yn 11.4 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas Westminster sy'n 9 km i ffwrdd.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg daw'r enw Chiswick o'r Hen Saesneg am fferm gaws (Cheese Farm).

Eginyn erthygl sydd uchod am Llundain Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.