Chloe Tutton | |
---|---|
Ganwyd | 17 Gorffennaf 1996 Pontypridd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | nofiwr |
Taldra | 169 centimetr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Nofwraig o Gymru ydy Chloe Tutton (ganwyd 17 Gorffennaf 1996), sydd wedi cystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad a thros Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Mae hi'n cystadlu yng nghystadlaethau dull broga[1].
Dechreuodd Tutton nofio ym mhwll nofio Ystrad Rhondda[2] cyn symud i ymuno â chlwb Dinas Caerdydd. Cafodd ei dewis yn rhan o dîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban ond methodd â chyrraedd y rowndiau terfynol yn y 100m dull broga ac yn y 200m dull broga[3]
Llwyddodd i sicrhau ei lle yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil wrth dorri'r record Prydain ar gyfer y 200m dull broga ym Mhencampwriaethau Prydain yn Glasgow ym mis Ebrill 2016[4] a gorffenodd yn bedwerydd yn rownd derfynol y 200m dull broga[5].
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)