Chris Froome

Chris Froome
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnChristopher Froome
LlysenwFroomey
Dyddiad geni (1985-05-20) 20 Mai 1985 (39 oed)
Taldra1.86 cm
Pwysau70 kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrCyffredinol
Tîm(au) Proffesiynol
2007
2008–2009
2010–
Konica Minolta
Barloworld
Team Sky
Prif gampau
Cymal 7, Tour de France 2012
Golygwyd ddiwethaf ar
10 Gorffennaf 2012

Seiclwr proffesiynol gyda Team Sky yw Christopher Froome CBE (ganed 20 Mai 1985) yn Nairobi, Cenia. Er cael ei fagu yn Cenia a De Affrica, mae Froome yn rasio ar drwydded Prydeinig ers 2008. Mae'n gymwys i rasio o dan drwydded Prydeinig oherwydd fod ei dad a'i nain a'i daid wedi eu geni ym Mhrydain Fawr[1].

Yn 2007 trodd Froome yn broffesiynol gyda Team Konica Minolta, ond symudodd i Ewrop er mwyn ceisio gwella ei yrfa gyda Team Barloworld ond yn 2010 cafodd ei arwyddo gan Team Sky er mwyn bod yn un o prif reidwyr domestique Bradley Wiggins.

Gorffennodd yn ail yn y Vuelta a España yn 2011 a hefyd yn ail tu ôl i Wiggins yn y Tour de France yn 2012 yn ogystal â chipio medal efydd yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 yn y Ras yn erbyn y Cloc[2]. Yn 2013 llwyddodd i ennill y Tour of Oman, Critérium International, Tour de Romandie a'r Critérium du Dauphiné cyn ennill y Tour de France[3].

Yn 2014, bu rhaid iddo ymddeol o'r Tour de France oherwydd anaf[4] ond llwyddodd i orffen y tymor gydag ail safle yn y Vuelta a España[5].

Palmares

[golygu | golygu cod]
2011
2il Vuelta a España
1af Cymal 17
Arweinydd Dosbarthiad Cyffredinol ar Cymal 11
2012
2il Tour de France
1af Cymal 7
Arweinydd Brenin y Mynyddoedd ar Cymal 8
3ydd Ras yn erbyn y cloc Gemau Olympaidd yr Haf 2012
4ydd Vuelta a España
2013
1af Tour of Oman
1af Dosbarthiad Pwyntiau
1af Cymal 5
1af Critérium International
1af Cymal 3
1af Tour de Romandie
1af Prôlog
1af Critérium du Dauphiné
1af Cymal 5
1af Tour de France
1af ar Gymal 8, 15 ac 17
Arweinydd Brenin y Mynyddoedd ar Gymal 9 ac 16–20
2il Cylchdaith Byd UCI
3ydd Ras yn erbyn y cloc i dimau, Pencampwriaeth Rasys Lôn y Byd
2014
1af Tour of Oman
1af Cymal 5
1af Tour de Romandie
1af Cymal 5
Critérium du Dauphiné
1af Dosbarthiad Pwyntiau
1af Cymal 1 a 2
2il Vuelta a España
Gwobr Brwydro
2015
1af Vuelta a Andalucía
1af Dosbarthiad Pwyntiau
1af Cymal 4
1af Critérium du Dauphiné
1af Cymal 7 ac 8
3ydd Tour de Romandie
1af Cymal 1
Tour de France
Arweinydd Dosbarthiad Cyffredinol ar Gymal 4
2017
1af Tour de France

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. "Underdog no more, Chris Froome hopes for a bit more liberty in 2012". VeloNews. Competitor Group, Inc. 2011-11-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-25. Cyrchwyd 2015-07-06.
  2. "Chris Froome finally gains his just rewards with bronze medal". 2012-08-01. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "2013 Tour de France: How Chris Froome won the race". 2013-07-21. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Chris Froome: Tour de France champion out after crashing twice". 2014-07-09. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Vuelta a Espana: 'I gave it everything,' says Chris Froome after being edged out by Alberto Contador in Spain". 2014-09-14. Unknown parameter |published= ignored (help)