Math o gyfrwng | brîd o gi |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o gi hela sy'n tarddu o Gymru yw'r Ci Hela Cymreig' (Helgi, neu'r bytheiad) sy'n frodorol o wledydd Prydain. Ceir llawer o sôn yn y Mabinogi a llenyddiaeth cynnar Cymru am gŵn hela, a chyfrifid y milgi yr adeg honno hefyd yn gi hela. Arferai'r uchelwyr gadw heidiau ohonynt i hela ceirw a baeddod gwyllt yn yr Oesoedd Canol ac erbyn y 16g dyfrgwn a llwynogod. Er nad yw mor gyflym a'r Ci hela Seisnig, mae'n llawer cryfach ci mewn tywydd garw ac ar y mynyddoedd.
Mae eu blew'n drwchus o hyd canolig, weithiau'n llyfn; mae'r lliw'n amrywio: du, brown golau, coch, gwyn neu gymysgedd o'r lliwiau hyn. Mae'r oedolyn ar gyfartaledd yn 24 modefedd (tua 60 cm) ac yn pwyso 70 - 75 pwys. Arferai fod o liw melyngoch a du.
Yn 1997 dengys llyfr bridio Cymdeithas Cŵn hela Cymreig fod 975 o gŵn gwaed pur wedi'u cofrestru ac ar eu llyfrau, mewn 24 haid.[1]
Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf, Cymraeg, at fytheiaid yn Y Llyfr Du o'r Waun yn y 13g (LlDW 10122), ond mae'r gair 'bytheiad' yn hen enw am gi hela, ymlyniad neu helgi - yn enwedig un ar gyfer hela llwynog. Mae'n fwy na phosib felly fod y bytheiad hynafol yr un brid a'r hyn a elwir heddiw'n 'Gi Hela Cymreig'.[2]
Gair a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniwr Oppian o Apamea, yn ei gerdd Cynegetica oedd Segussi, a oedd yn un o gŵn y brodorion Celtaidd:[3]
Ceir brid cryf o gŵn hela, bychan o ran maint, ond mawr o ran clod. Mae'r llwythi gwyllt hyn, gyda'u tatŵs ar eu cefnau, yn bridio ac yn galw math a elwir yn Agassia. Dydy nhw'n ddim mwy (o ran main) na chŵn barus o dan ein byrddau bwyd: cŵn byrdew, tenau, blewog, llygatddu gyda chrafangau cryfion ar ei bawenau a cheg yn llond o ddannedd miniog, gwych am larpio ei ysglyfaeth. Ond ei brif nodwedd, fodd bynnag, yw ei drwyn gwych am ganfod a dilyn ysglyfaeth - dyma'r gorau sydd! Gall ganfod olion olion pawennau neu draed ar y ddaear, a gall ffroeni'r awyr a chanfod ei brae.[4]
- —Oppian, Cynegetica, I, 468–480[5]
Yng Nghyfraith Hywel Dda nodir fod gwerth y ci hela wedi ei hyfforddi yn 240 ciniog a 120 am gi heb ei hyfforddi; mewn cymhariaeth, gwerth ceffyl gwedd wedi'i hyfforddi oedd 120 ceiniog.
Mae gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn frith o gyfeiriadau at y ci hela, gan ei glodfori ar bob adeg; dyma'r trydydd anifail y cyfeirir ato fynychaf (ar ôl meirch ac ych) yn y cywyddau er enghraifft.[6] Canodd Dafydd ap Gwilym yn y 14g sawl cyfeiriad ato gan gynnwys A'm llu bytheiaid i’m llaw (GDG 107; gol Thomas Parry (1952) a chanodd Tudur Aled yn niwedd y 15ed ganrif: Bytheiad da, beth a’i tynn / O’r iawn ôl, er a wnelyn?[7]
Gelwir y ci hela yn aml yn 'filgwn' neu 'fytheiaid'. Sonir am y milgi yn y cyfreithiau Cymreig, gan wahaniaethu rhyngddo a’r gellgi. Mae'n debyg bod y milgi yn debyg i'r milgi presennol, a'r gellgi yn gryfach ac yn fwy ac yn debyg i hyddgi. Roedd y bytheiad yn nodedig am ei gyfarth a'i allu i ddilyn arolg anifail; math arall o gi a ffroen da ganddo oedd yr olrhead, a roddodd i ni'r gair 'olrhain'.
'Pencynydd' oedd y prif heliwr a cheidwad yr helgwn, ac roedd hefyd yn un o swyddogion y llys brenhinol gyda chyfrifoldeb dros nifer o gynyddion. Mae cywydd Guto'r Glyn yn dangos i ni fod Uchelwyr ei oes yn bridio helgwn:
Gwreiddiol | Ffurf fodern |
---|---|
|
|
Dywedir bod gan y cŵn hela ganolau main a mynwesau dwfn (Dwy ddwyfron leision i lawr / dwy fynwes hir hyd y llawr). Mae Guto’n brolio eu cyflymder, gan ddweud eu bod yn gynt na'r corwynt tuag at y caeriyrchod. Cyfeiria hefyd at goleri'r cŵn a sonir am hyn yn y cyfreithiau Cymreig. Cir hefyd gyfeiriad at drin eu blew â chrib. Mae'r bardd yn rhoi sylw arbennig i gotiau’r cŵn yn y gerdd gan ddweud bod ganddynt wallt cyrliog (cyfrodeddwallt) a chrwyn o liw llwydrew gyda blew fel cotwm (crwyn llwydrew / … cotwm yw’r blew), ac mae'n eu cymharu gyda dau lew a chanddynt flew fel y pared o wiail plethedig.[6]
Ymddengys felly fod yr helgi canoloesol yn fwy na'r milgi a geir heddiw ac iddo flew garw a chryfder a thaldra'r Ci hela Cymreig.
Cyn cael ei ddofi arferai'r ci hela hwn hel ei fwyd mewn heidiau a thros y blynyddoedd mae wedi cynefino gyda thirwedd ac amgylchedd creigiog ac oer Cymru. Mae'r ci dof a hyfforddwyd yn drlwyr yn gi anwes da, yn enwedig mewn cartref o blant. Cânt eu disgrifio fel cŵn deallus, teyrngar i'w perchnogion a bodlon.
Cofrestrwyd y Ci hela Cymreig gyda'r Gymdeithas Cŵn Hela Cymreig, sydd a'u llyfr bridio'n dyddio i 1922, ac sydd wedi cadw cofnodion o'r cŵn gwaed pur ers 1928. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn unswydd er mwyn gwarchod y Ci Hela Cymreig, fel brid unigryw.[8] Fe'i cydnabyddwyd gan 'Glwb Cennel yr UD' ers 1 Ionawr 2006.[9]