Cliff Michelmore | |
---|---|
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1919 Cowes |
Bu farw | 16 Mawrth 2016, 17 Mawrth 2016 Petersfield |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu |
Priod | Jean Metcalfe |
Plant | Guy Michelmore |
Gwobr/au | CBE |
Cyflwynydd a chynhyrchydd teledu Seisnig oedd Arthur Clifford Michelmore, CBE (11 Rhagfyr 1919 – 16 Mawrth 2016), adwaenir fel Cliff Michelmore. Roedd yn fwyaf adnabyddus am y rhaglen deledu Tonight ar y BBC, a gyflwynodd rhwng 1957 a 1965. Fe oedd prif gyflwynwr darllediad teledu'r BBC o laniadau Apollo ar y lleuad, trychineb Aberfan, etholiadau cyffredinol y DU yn 1966 a 1970 ac arwisgiad Y Tywysog Siarl fel Tywysog Cymru yn 1969. Fe'i gwnaed yn Gadlywydd o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn 1969.
Ganwyd Michelmore yn Cowes, Ynys Wyth, yn 1919,[1] a mynychodd Ysgol Uwchradd Cowes, Coleg Loughborough a Choleg Technoleg a Chelf Leicester. Roedd yn aelod o'r 32ain mynediad i'r Cynllun Prentisiaeth Awyrennau yn Ysgol Rhif 1, Hyfforddi Technegol yr RAF yn RAF Halton. Roedd yn arweinydd sgwadron yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chychwynnodd ddarlledu ar radio'r Lluoedd Prydeinig. Ar ôl y rhyfel, fe weithiodd i BBC Radio a theledu fel sylwebydd chwaraeon llawrydd, yna fel gohebydd newyddion a chynhyrchydd rhaglenni plant, yn cynnwys All Your Own. Fe briododd Michelmore nyrs yn ystod y rhyfel ond ysgarodd yn 1949.[2]
Ar 4 Mawrth 1950 priododd Jean Metcalfe, cyhoeddwr BBC, oedd yn cyflwyno Two-Way Family Favourites yn Llundain tra oedd e yn cyflwyno'r ddolen o Hamburg mewn rhaglen ar gyfer y Gwasanaeth Darlledu Lluoedd Prydeinig. Ni wnaeth y ddau gyfarfod wyneb yn wyneb am chwe mis, ond yn fuan ar ôl cyfarfod fe ddyweddïodd a phriododd y cwpl. Galwodd Cliff hyn yn 'gariad ar y clyw cyntaf'.[3] Cafodd y cwpl ferch, yr actores Jenny Michelmore, a mab, y darlledwr a chyfansoddwr Guy Michelmore.
Rhwng 1955 a 1957 cyflwynodd Michelmore y rhaglen deledu Highlight ar y BBC, sioe materion cyfoes gydag enw am gyfweliadau digyfaddawd. Ar 18 Chwefror 1957 daeth yn brif gyflwynydd y sioe gylchgrawn ddyddiol Tonight, a barhaodd am wyth mlynedd a ddenodd wyth miliwn o wylwyr ar ei anterth. Mae'n debyg fod hyn yn ei wneud y person oedd yn ymddangos fwyaf aml ar deledu yn y cyfnod, ac felly yn un o'r unigolion mwyaf adnabyddus yn y DU. Fe'i henwyd yn Bersonoliaeth Teledu'r Flwyddyn gan BAFTA yn 1958.[4] Ymddangosodd David Bowie ar y teledu am y tro cyntaf yn 17 mlwydd oed ar Tonight yn 1964. Cyflwynwyd Bowie fel sylfaenydd a llefarydd y 'Gymdeithas dros Atal Creulondeb i Ddynion gyda Gwallt Hir'.
Pan ddaethTonight i ben yn 1965, cyflwynodd Michelmore gyfres ar BBC One o'r enw 24 Hours[5] hyd 1968. Yn 1967 cyflwynodd rhan y DU o Our World (TV special),[6] darllediad teledu byd-eang a oedd y cyntaf i ddefnyddio cyfathrebu lloeren mewn ymgais i "gysylltu'r byd i gyd trwy deledu".[7] Roedd y sioe yn cynnwys perfformiad gan y Beatles o'u cân "All You Need Is Love". Roedd Michelmore yn arfer honni[8] fod y gân wedi ei ysbrydoli yn rhannol gan logo Our World, cadwyn o ffigyrau yn dal dwylo o gwmpas y byd. Yn y 1970au a hyd at ddiwedd cyfnod Southern Television yn Rhagfyr 1981 (cwmni teledu ITV ar gyfer rhan fwyaf o dde Lloegr), roedd Michelmore yn brif gyflwynydd ar y rhaglen newyddion leol "Day by Day". Pan gaeodd y BBC ei stiwdios Lime Grove yn 1991, cyflwynodd Michelmore y darllediad olaf o Lime Grove.[9]
Wedi gadael gwaith teledu llawn-amser, daeth Michelmore yn bennaeth ar adran fideo newydd EMI. Roedd yn gyflwynwr rheolaidd ar raglen deledu Holiday ar BBC 1rhwng 1969 a 1986, a chyflwynodd sioeau eraill ar gyfer teledu'r BBC, ITV a BBC Radio. Dychwelodd Michelmore i'r BBC ar 18 Tachwedd 2007 i gyflwyno rhaglen ar sianel BBC Parliament, yn adrodd hanes dibrisio'r bunt yn 1967. Roedd yn byw yn South Harting, Sussex. Bu farw yn Mawrth 2016.