Pyropteron chrysidiforme | |
---|---|
Oedolyn yn Ffrainc | |
Pyropteron chrysidiforme wedi'i fowntio ♂ | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Sesiidae |
Genws: | Pyropteron |
Rhywogaeth: | P. chrysidiforme |
Enw deuenwol | |
Pyropteron chrysidiforme (Esper, 1782) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw cliradain danllyd, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy cliradenydd tanllyd; yr enw Saesneg yw Fiery Clearwing, a'r enw gwyddonol yw Pyropteron chrysidiforme (neu P. chrysidiformis).[1][2]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gliradain danllyd yn lindysyn sydd yn bwydo tu fewn i wreiddiau planhigion o'r genws Rumex (e.e. tafolen grech a suran y cŵn), ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.