Clive James | |
---|---|
Ganwyd | 7 Hydref 1939 Kogarah |
Bu farw | 24 Tachwedd 2019 o liwcemia Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | Awstralia, y Deyrnas Unedig |
Addysg | Bachelor of Arts (Honours) |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, darlledwr, beirniad llenyddol, bardd, cyflwynydd teledu |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Cultural Amnesia |
Prif ddylanwad | Albert Camus |
Gwobr/au | CBE, Swyddogion Urdd Awstralia, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Aelod o Urdd Awstralia, Medal y Llywydd, prix Giles |
Gwefan | http://www.clivejames.com |
Roedd Clive James, AO, CBE, FRSL (7 Hydref 1939 – 24 Tachwedd 2019) yn awdur, beirniad, darlledwr, bardd, cyfieithydd a cofiannydd o Awstralia. Roedd yn byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig ers 1962.[1]
Ganwyd Vivian Leopold James yn Kogarah, maestref yn ne Sydney. Caniatawyd iddo newid ei enw fel plentyn oherwydd "ar ôl i Vivien Leigh chwarae Scarlett O'Hara, daeth yn enw ar gyfer merch, dim ots sut yr oedd wedi ei sillafu".[2] Dewisodd "Clive", enw cymeriad Tyrone Power yn y ffilm 1942 This Above All.[3]
Cymerwyd tad James yn garcharor gan y Siapaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er iddo oroesi y gwersyll carcharorion rhyfel, bu farw pan ddaeth yr awyren a'i ddychwelodd i Awstralia gwympo i'r môr ym Mae Manila; claddwyd ef yn Mynwent Rhyfel Sai Wan yn Hong Kong. Roedd James un unig blentyn ac fe'i magwyd gan ei fam, gweithiwr ffatri,[4] ym maestrefi Kogarah a Jannali yn Sydney, gan fyw am rhai blynyddoedd gyda tad ei fam.[2]
Yn ei gofeb Unreliable Memoirs, dywed James fod prawf IQ a gymerodd yn ystod plentyndod wedi rhoi sgôr 140.[5] Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Technegol Sydney (er iddo ennill gwobr bwrsari i Ysgol Uwchradd Sydney Bechgyn) a Phrifysgol Sydney, lle astudiodd Saesneg a Seicoleg o 1957 i 1960, a daeth yn gysylltiedig â Sydney Push, is-ddiwylliant rhyddewyllysol, deallusol. Yn y brifysgol, golygodd papur newydd y myfyriwr, Honi Soit, a chyfarwyddodd Revue blynyddol yr Undeb. Graddiodd â Baglor mewn Celfyddydau gydag Anrhydedd yn Saesneg yn 1961. Ar ôl graddio, gweithiodd am flwyddyn fel golygydd cynorthwyol ar gyfer The Sydney Morning Herald .
Yn gynnar yn 1962 symudodd James i Loegr, y wlad a ddaeth yn gartref iddo. Yn ystod ei dair blynedd gyntaf yn Llundain, rhannodd fflat gyda Bruce Beresford, cyfarwyddwr ffilm Awstraliaidd (a gafodd y ffugenw "Dave Dalziel" yn nhri chyfrol cyntaf o hunangofiant James), ac yn gymydog o'r artist Awstralaidd Brett Whiteley, ac yn gyfarwydd â Barry Humphries (a elwir yn "Bruce Jennings" yn ei gofiant). Gwnaeth amrywiaeth o swyddi tymor byr oedd yn drychinebus o bryd i'w gilydd - gweithiwr metel dalen, cynorthwyydd llyfrgell, archifydd ffotograffau ac ymchwilydd marchnad.
Yn ddiweddarach, enillodd James le yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt, i ddarllen llenyddiaeth Saesneg. Tra yno, cyfrannodd at yr holl gyfnodolion israddedig, roedd yn aelod ac yn ddiweddarach yn Llywydd Cambridge Footlights, ac ymddangosodd ar University Challenge fel capten tîm Penfro, gan guro St Hilda's, Rhydychen cyn colli i Balliol ar y cwestiwn olaf mewn gêm gyfartal. Yn ystod un gwyliau'r haf, bu'n gweithio fel roustabout syrcas i gynilo digon o arian er mwyn teithio i'r Eidal.[6] Roedd ei gyfoeswyr yng Nghaergrawnt yn cynnwys Germaine Greer (a elwir yn "Romaine Rand" yn y tri cyfrol cyntaf o'i hunangofiant), Simon Schama ac Eric Idle. Honnodd ei fod wedi osgoi darllen unrhyw ddeunydd cwrs (er ei fod wedi darllen yn helaeth fel arall mewn llenyddiaeth Saesneg a thramor), graddiodd James gyda 2:1-yn well nag yr oedd yn ddisgwyl-a cychwynodd traethawd ymchwil Ph.D. ar Percy Bysshe Shelley.
Daeth James yn adolygydd teledu ar gyfer The Observer ym 1972,[4] gan barhau yn y swydd tan 1982. Cyhoeddwyd detholiad o'r golofn mewn tri llyfr - Visions Before Midnight, The Crystal Bucket a Glued to the Box - ac yn olaf mewn casgliad, On Television.
Ysgrifennodd beirniadaeth lenyddol yn helaeth ar gyfer papurau newydd, cylchgronau a chyfnodolion ym Mhrydain, Awstralia a'r Unol Daleithiau, gan gynnwys, ymhlith sawl un arall, The Australian Book Review, The Monthly, Atlantic Monthly, The New York Review of Books, The Liberal a'r Times Literary Supplement. Gwnaeth John Gross ddewis cynnwys traethawd James 'A Blizzard of Tiny Kisses' yn Oxford Book of Essays (1992, 1999).
Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o feirniadaeth lenyddol The Metropolitan Critic (1974), wedi ei ddilyn gan At The Pillars of Hercules (1979), From the Land of Shadows (1982), Snakecharmers in Texas (1988), The Dreaming Swimmer (1992), Even As We Speak (2004), The Meaning of Recognition (2005) ac Cultural Amnesia (2007), casgliad o fywgraffiadau deallusol bychan o dros 100 o ffigurau arwyddocaol yn niwylliant, hanes a gwleidyddiaeth fodern. Roedd y llyfr yn amddiffyniad o ddyneiddiaeth, democratiaeth rhyddfrydol ac eglurder llenyddol, ac fe'i rhestrwyd ymysg llyfrau gorau 2007 gan The Village Voice.
Cyhoeddwyd cyfrol arall o draethodau, The Revolt of the Pendulum, ym mis Mehefin 2009.
Cyhoeddodd hefyd Flying Visits, casgliad o ysgrifau teithio ar gyfer The Observer.
Am flynyddoedd lawer, hyd at ganol 2014, ysgrifennodd y dudalen adolygiad teledu wythnosol yn adran Adolygiad rhifyn Sadwrn y Daily Telegraph.
Cyhoeddodd James nifer o lyfrau barddoniaeth, gan gynnwys Poem of the Year (1983), dyddiadur pennillion, Other Passports: Poems 1958-1985, ei gasgliad cyntaf, a The Book of My Enemy (2003), cyfrol sy'n cymryd ei deitl o'i gerdd "The Book of My Enemy Has Been Remaindered."[7]
Cyhoeddodd pedair cerdd ffugarwrol: The Fate of Felicity Fark in the Land of the Media: a moral poem (1975), Peregrine Prykke's Pilgrimage Through the London Literary World (1976), Britannia Bright's Bewilderment in the Wilderness of Westminster (1976) a Charles Charming's Challenges on the Pathway to the Throne (1981).
Yn ystod y 1970au, cydweithiodd hefyd ar chwe albwm o ganeuon gyda Pete Atkin :
Roedd adfywiad o ddiddordeb yn y caneuon yn y 1990au hwyr, a sbardunwyd yn bennaf gan Steve Birkill o restr bostio Rhyngrwyd "Midnight Voices" yn 1997. Arweiniodd hyn at cyhoeddi chwe albwm ar CD rhwng 1997 a 2001, yn ogystal â pherfformiadau byw gan y pâr. Cyhoeddwyd albwm dwbl o ganeuon oedd heb eu rhyddhau o'r blaen a ysgrifennwyd yn y saithdegau - The Lakeside Sessions: Volumes 1 a 2 - yn 2002. Rhyddhawyd "Winter Spring", albwm o ddeunydd newydd a ysgrifennwyd gan James ac Atkin yn 2003. Dilynwyd hyn gan "Midnight Voices", albwm o fersiynau newydd o ganeuon gorau Atkin/James o'r albymau cynnar, ac yn 2015, "The Colors of the Night", oedd yn cynnwys nifer o ganeuon newydd.
Cydnabodd James bwysigrwydd y grŵp "Midnight Voices" o ddod a sylw ehangach i'r darn yma o'i yrfa yn ysgrifennu caneuon. Ysgrifennodd ym mis Tachwedd 1997, "That one of the midnight voices of my own fate should be the music of Pete Atkin continues to rank high among the blessings of my life".[8]
Yn 2013, cyhoeddwyd ei gyfieithiad o Divine Comedy gan Dante. Cafodd y gwaith, sy'n defnyddio penillion pedair llinell i gyfieithu'r terza rima gwreiddiol, ei dderbyn yn dda gan feirniaid Awstralia.[9][10] Yn ysgrifennu yn y New York Times,[11] roedd Joseph Luzzi o'r farn ei fod yn aml yn methu â dal naws mwy dramatig yr Inferno, ond ei fod yn fwy llwyddiannus lle mae Dante yn arafu, yn y cantos mwy diwinyddol a phwyllog y Purgatorio a Paradiso.
Yn 1980, cyhoeddodd James ei lyfr hunangofiant cyntaf, Unreliable Memoirs, a oedd yn adrodd ei fywyd cynnar yn Awstralia, a gafodd dros gant o ailargraffiadau. Dilynwyd hyn gan bedair cyfrol arall o hunangofiannau ganddi: Falling Towards England (1985), a oedd yn cwmpasu ei flynyddoedd yn Llundain; May Week Was in June (1990), a oedd yn delio â'i amser yng Nghaergrawnt ; North Face of Soho (2006), a The Blaze of Obscurity (2009), yn adross hanes ei yrfa fel cyflwynydd teledu. Cyhoeddwyd casgliad o'r tri cyfrol cyntaf o dan y teitl Always Unreliable.
Ysgrifennodd pedwar nofel: Brilliant Creatures (1983), The Remake (1987), Brrm! Brrm! (1991), a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau fel The Man from Japan, a The Silver Castle (1996).
Ym 1999, gwnaeth John Gross gynnwys rhan o Unreliable Memoirs yn The New Oxford Book of English Prose. Dewisodd John Carey Unreliable Memoirs fel un o hanner cant o'r llyfrau mwyaf pleserus yr ugeinfed ganrif yn ei lyfr Pure Pleasure (2000).
Datblygodd James ei yrfa deledu fel sylwebydd gwadd ar wahanol raglenni, gan gynnwys fel cyn-gyflwynydd achlysurol gyda Tony Wilson ar y gyfres gyntaf o So It Goes, sioe gerddoriaeth pop Teledu Granada. Ar y sioe lle gwnaeth y Sex Pistols eu ymddangosiad cyntaf ar deledu, dywedodd James: "During the recording, the task of keeping the little bastards under control was given to me. With the aid of a radio microphone, I was able to shout them down, but it was a near thing ... they attacked everything around them and had difficulty in being polite even to each other."[12]
Ar ôl hynny, cyflwynodd James y sioe ITV Clive James on Television, lle dangosodd raglenni teledu anarferol neu ddoniol (weithiau yn anfwriadol) o bob cwr o'r byd, yn arbennig y sioe deledu Endurance o Siapan. Ar ôl ei ddenu i'r BBC ym 1989, cyflwynodd raglen gyda fformat tebyg o'r enw Saturday Night Clive (1988-1990) a ddarlledwyd i ddechrau ar nos Sadwrn, gan ddychwelyd fel Saturday Night Clive on Sunday yn ei ail gyfres pan newidiodd y diwrnod darlledu ac yna Sunday Night Clive yn ei gyfres drydydd ac olaf. Yn 1995 sefydlodd Watchmaker Productions i gynhyrchu The Clive James Show ar gyfer ITV, cyfres a lansiodd yrfa Brydeinig y gantores a'r digrifwr Margarita Pracatan. Cyflwynodd James un o'r sioeau sgwrsio cynnar ar Channel 4 a cyflwynodd rhaglenni Review of the Year y BBC ar ddiwedd y 1980au (Clive James on the '80s) a'r 1990au (Clive James on the '90s), oedd yn rhan o ddathliadau Nos Galan y sianel..
Yng nghanol yr 1980au, ymddangosodd James mewn rhaglen deithio o'r enw Clive James in ... (gan ddechrau gyda Clive James in Las Vegas ) ar gyfer LWT (bellach ITV) a symudodd yn ddiweddarach i'r BBC, lle bu'n parhau i gynhyrchu rhaglenni teithio, a elwir y tro hwn yn Clive James' Postcard from ... (gan ddechrau gyda Clive James' Postcard from Miami) - trosglwyddwyd y rhain i ITV yn y pen draw. Roedd hefyd yn un o dîm cyflwynwyr gwreiddiol The Late Show y BBC, oedd yn cynnal trafodaeth ddiwylliannol yn hwyr ar nos Wener.
Darlledwyd ei brif gyfres ddogfen Fame in the 20th Century (1993) yn y Deyrnas Unedig gan y BBC, yn Awstralia gan ABC ac yn yr Unol Daleithiau gan rwydwaith PBS. Roedd y gyfres hon yn ymdrin â'r cysyniad o "enwogrwydd" yn yr 20g, yn trafod pobl enwog o yr 20g dros gyfnod o wyth pennod (pob un yn gronolegol ac wedi ei neilltuo'n fras i un degawd o'r ganrif, o'r 1900au i'r 1980au). Drwy ddefnyddio archif ffilm, cyflwynodd James hanes "enwogrwydd" a oedd yn archwilio ei dwf i'w natur fyd-eang heddiw. Yn ei sylwadau i ddiweddu'r gyfres, dywedodd, "Achievement without fame can be a rewarding life, while fame without achievement is no life at all."
Roedd James yn gefnogwr adnabyddus o rasio modur, a cyflwynodd y fideos swyddogol oedd yn adolygu yn tymor Fformiwla Un yn 1982, 1984 a 1986 a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Adeiladwyr Fformiwla Un, sef FOCA. Roedd James, a ymwelodd a rhan fwyaf o rasys F1 yn ystod yr 1980au yn gyfaill i bennaeth FOCA, Bernie Ecclestone, yn ychwanegu ei hiwmor ei hun i'r adolygiadau a ddaeth yn boblogaidd gyda chefnogwyr y gamp. Cyflwynodd hefyd raglen The Clive James Formula 1 ar gyfer ITV i gyd-fynd â'u darllediada Fformiwla Un yn 1997 .
Wrth grynhoi'r cyfrwng, dywedodd: "Anyone afraid of what he thinks television does to the world is probably just afraid of the world".
Yn 2007, cychwynodd James gyflwyno'r gyfres A Point of View ar BBC Radio 4, gyda thrawsgrifiadau yn ymddangos yn adran "Cylchgrawn" BBC News Online. Yn y rhaglen hon, roedd James yn trafod amrywiaeth o bynciau gyda thinc o hiwmor. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys portread y cyfryngau o artaith,[13] modelau rôl ifanc du[14] ac ail-frandio corfforaethol.[15] Cyrhaedodd tair o ddarllediadau James yn 2007 y rhestr fer ar gyfer Gwobr Orwell 2008.[16]
Ym mis Hydref 2009, darllenodd James fersiwn radio o'i lyfr The Blaze of Obscurity, ar raglen Book of the Week BBC Radio 4.[17] Ym mis Rhagfyr 2009, siaradodd James am y Mustang P-51 ac awyrennau Americanaidd arall o'r Ail Ryfel Byd yn The Museum of Curiosity ar BBC Radio 4.[18]
Ym mis Mai 2011, cyhoeddodd y BBC bodlediad newydd, A Point of View: Clive James, oedd yn gynnwys y chwe deg o raglenni A Point of View a gyflwynwyd gan James rhwng 2007 a 2009.
Bu'n postio sgyrsiau ar fideo drwy ei sioe rhyngrwyd Talking in the Library, gan gynnwys sgyrsiau gydag Ian McEwan, Cate Blanchett, Julian Barnes, Jonathan Miller a Terry Gilliam. Yn ogystal â barddoniaeth a rhyddiaith James ei hun, mae'r wefan yn cynnwys gwaith ffigurau llenyddol eraill megis Les Murray a Michael Frayn, yn ogystal â gwaith peintwyr, cerflunwyr a ffotograffwyr megis John Olsen a Jeffrey Smart .
Yn 2008 perfformiodd James mewn dau sioe yng Ngŵyl Comedi Caeredin: Clive James yn in Conversation a Clive James in the Evening. Cymerodd y sioe olaf ar daith gyfyngedig o'r DU yn 2009.
Roedd ganddo ddisgrifiad enwog o Arnold Schwarzenegger, yn ei amser yn corfflunio, gan ddweud ei fod yn edrych fel "a brown condom full of walnuts".[19] Disgrifiodd y nofelydd rhamantus, Barbara Cartland, fel fod ganddi "Twin miracles of mascara, her eyes looked like the corpses of two small crows that had crashed into the white cliffs of Dover"
Ym 1992, gwnaethpwyd James yn Aelod o Orchymyn Awstralia (AC). Cafodd hyn ei huwchraddio i lefel Swyddog (AO) yn Anrhydeddau Diwrnod Awstralia 2013. Penodwyd James yn Gadlywydd Orchymyn yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2012 am wasanaethau i lenyddiaeth a'r cyfryngau. Yn 2003, enillodd Fedal Goffa Philip Hodgins ar gyfer Llenyddiaeth. Mae wedi derbyn doethuriaethau anrhydeddus gan Brifysgolion Sydney ac East Anglia. Ym mis Ebrill 2008, dyfarnwyd iddo Gwobr Arbennig Ysgrifennu a Darlledu gan feirniaid Gwobr Orwell.[20]
Etholwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth yn 2010[21] Roedd yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Penfro, Caergrawnt (ei alma mater). Yn seremoni BAFTA 2015, derbyniodd James wobr arbennig yn anrhydeddu ei yrfa dros 50 mlynedd.
Yn 2014, dyfarnwyd iddo Fedal y Llywydd gan yr Academi Brydeinig.[22]
Yn 1968, yng Nghaergrawnt,[23] priododd Prudence A. "Prue" Shaw,[1] darllenydd emeritws mewn astudiaethau Eidaleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac awdur Reading Dante: From Here to Eternity. Mae gan James a Shaw ddwy ferch. Ym mis Ebrill 2012, roedd eitem ar raglen Awstralia Channel Nine, A Current Affair lle'r oedd y cyn-fodel, Leanne Edelsten, yn cyfadded iiddi fod mewn perthynas am wyth mlynedd gyda James yn dechrau yn 2004.[24] Fe'i daflwyd allan o'r cartref teuluol gan Shaw yn dilyn y datguddiad.[1] Cyn hynny, am y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith, roedd James yn rhannu ei amser rhwng fflat yn Llundain a'r cartref teuluol yng Nghaergrawnt. Cadwodd at bolisi cyffredinol o beidio â sôn am ei deulu yn gyhoeddus, er ei fod wedi gwneud sylwadau digymell yn achlysurol yn ei amrywiol lyfrau am rai o'i brofiadau o fyw mewn tŷ gyda thri menyw.
Ar ôl marwolaeth ei gyfaill, Diana, Tywysoges Cymru, ysgrifennodd James ddarn ar gyfer The New Yorker o'r enw "I Wish I Had Never Met", gan gofnodi ei alar anferth.[25] Ers hynny, gwrthododd wneud sylwadau am eu cyfeillgarwch, heblaw am rai sylwadau yn ei bumed gyfrol o gofebau Blaze of Obscurity.
Daeth barn wleidyddol James yn amlwg yn y rhan fwyaf o'i waith diweddarach. Tra'n feirniadol o gomiwnyddiaeth am ei duedd tuag at totalitariaeth, mae'n dal i uniaethu gyda'r chwith. Mewn cyfweliad yn 2006 gyda'r Sunday Times,[26] dywedodd James o'i hun: "I was brought up on the proletarian left, and I remain there. The fair go for the workers is fundamental, and I don't believe the free market has a mind." Mewn araith a roddwyd yn 1991, beirniadodd breifateiddio: "The idea that Britain's broadcasting system—for all its drawbacks one of the country's greatest institutions—was bound to be improved by being subjected to the conditions of a free market: there was no difficulty in recognising that notion as politically illiterate. But for some reason people did have difficulty in realising that it was economically illiterate too."[27]
Yn gyffredinol, roedd James yn dynodi fel democrat cymdeithasol rhyddfrydol.[28] Cefnogodd yn gryf yr ymosodiad ar Irac yn 2003, gan ddweud yn 2007 bod "y rhyfel wedi para ychydig ddyddiau yn unig" a bod y gwrthdaro parhaus yn Irac yn "the Iraq peace".[29] Ysgrifennodd hefyd mai'r "polisi swyddogol oedd dreisio merch o flaen ei theulu" yn ystod cyfundrefn Saddam Hussein a bod merched wedi mwynhau mwy o hawliau ers yr ymosodiad.[30] Bu hefyd yn Noddwr Ymgyrch Burma UK, sefydliad sy'n ymgyrchu dros hawliau dynol a democratiaeth yn Burma.[31]
Roedd James yn mynegi barn amheuol am newid hinsawdd.[32][33]
Gan ddisgrifio crefyddau fel "advertising agencies for a product that doesn't exist", roedd James yn anffyddiwr ac yn gweld hyn fel y safle diofyn ac amlwg.[34][35]
Roedd James yn gallu darllen, gyda rhuglder amrywiol, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Rwsia a Siapaneg.[36] Gyda brwdryfedd am y ddawns tango, teithiodd i Buenos Aires ar gyfer gwersi dawns ac roedd ganddi lawr dawns yn ei dŷ.[34]
Am lawer o'i fywyd cynnar, roedd James yn yfwr ac ysmygwr trwm. Mae'n cofnodi yn May Week Was in June ei arfer o lenwi blwch llwch hubcap yn ddyddiol.[37][38] Ar sawl adeg ysgrifennodd o'i ymdrechion - yn llwyddiannus weithiau - i roi'r gorau i yfed ac ysmygu.[39] Cyfaddefodd ei fod wedi ysmygu 80 sigaréts y dydd am sawl blwyddyn.[40] Ym mis Ebrill 2011, ar ôl dyfalu yn y cyfryngau ei fod wedi dioddef methiant yr arennau,[41] cadarnhaodd James ei fod yn dioddef o lewcemia lymffocytig cronig cell-B ac roedd wedi cael triniaeth am 15 mis yn Ysbyty Addenbrooke.[42] Mewn cyfweliad â BBC Radio 4 ym mis Mehefin 2012, cyfaddefodd James fod y clefyd "wedi ei guro" a'i fod yn "agos at y diwedd".[43] Dywedodd ei fod hefyd wedi cael diagnosis o emffysema a methiant yr arennau yn gynnar yn 2010.[44]
Ar 3 Medi 2013, darlledwyd cyfweliad gyda'r newyddiadurwr Kerry O'Brien, Clive James: The Kid from Kogarah, gan Gorfforaeth Ddarlledu Awstralia.[45] Cafodd y cyfweliad ei ffilmio yn llyfrgell ei hen goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt.[45]
Mewn cyfweliad gyda Charlie Stayt ar y BBC, a ddarlledwyd ar 31 Mawrth 2015, disgrifiodd James ei hun fel "agos at farwolaeth ond yn ddiolchgar am fywyd".[46] Fodd bynnag, ym mis Hydref 2015, cyfaddefodd i deimlo "embaras" wrth barhau i fod yn fyw diolch i driniaeth cyffuriau arbrofol.[47]
Tan fis Mehefin 2017, ysgrifennodd golofn wythnosol ar gyfer The Guardian o'r enw 'Reports of My Death...'.[48]
Bu farw yn ei gartref yng Nghaergrawnt ar ddydd Sul, 24 Tachwedd 2019. Cynhaliwyd angladd breifat iddo yn y capel yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt ar 27 Tachwedd 2019.
Teitl | Blwyddyn | Cyhoeddwyd gyntaf | Ail-argraffwyd/casglwyd |
---|---|---|---|
Beachmaster | 2009 | James, Clive (Ebrill 2009). "Beachmaster". The Monthly. http://www.themonthly.com.au/issue/2009/march/1237959353/clive-james/beachmaster. | |
Early to bed | 2013 | James, Clive (Ebrill 2013). "Early to bed". Australian Book Review 350: 25. | |
Leçons de ténèbres | 2013 | James, Clive (3 Mehefin 2013). "Leçons de ténèbres". The New Yorker 89 (16): 64. http://www.newyorker.com/magazine/2013/06/03/lecons-de-tenebres. | |
Rounded with a Sleep | 2014 | James, Clive (8 Awst 2014) "Rounded with a Sleep". The Times Literary Supplement. 5810: 4. | |
Initial outlay | 2016 | James, Clive (Jan–Feb 2016). "Initial outlay". Quadrant 60 (1-2): 9. | |
I was proud of these hands once | 2016 | James, Clive (Jan–Feb 2016). "I was proud of these hands once". Quadrant 60 (1-2): 49. | |
Splinters from Shakespeare | 2016 | James, Clive (Jan–Feb 2016). "Splinters from Shakespeare". Quadrant 60 (1-2): 49. |
|publisher=
(help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)