Clive Swift | |
---|---|
Ganwyd | 9 Chwefror 1936 ![]() Lerpwl ![]() |
Bu farw | 1 Chwefror 2019 ![]() o methiant anadlu ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, cyfansoddwr, actor teledu ![]() |
Priod | Margaret Drabble ![]() |
Plant | Adam Swift, Joe Swift ![]() |
Actor a chyfansoddwr caneuon o Loegr oedd Clive Walter Swift (9 Chwefror 1936 – 1 Chwefror 2019). Roedd yn adnabyddus am ei rôl fel Richard Bucket, gŵr amyneddgar Hyacinth (a chwaraewyd gan Patricia Routledge) yn y gyfres deledu Prydeinig Keeping Up Appearances, ond chwaraeodd lawer o rannau ffilm-a-theledu nodedig eraill, gan gynnwys Roy yn y gyfres deledu The Old Guys.
Ganwyd Swift yn Lerpwl, yn fab i Lily Rebecca (née Greenman) ac Abram Sampson Swift.[1] Roedd ei frawd hynaf, David, hefyd yn actor. Cafodd y ddau eu haddysgu yng Ngholeg Clifton a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt, lle astudiodd lenyddiaeth Saesneg. Bu'n athro yn LAMDA a'r Royal Academi of Dramatic Art. Roedd ei deulu yn Iddewig.[2]
Ymddangosodd fel Snug yng nghynhyrchiad ffilm Cwmni Shakespeare Frenhinol o A Midsummer Night's Dream yn 1968 fel rhan o cast a oedd yn cynnwys Diana Rigg, Helen Mirren ac Ian Richardson. Yn y 1970au, ymddangosodd fel Doctor Black mewn dwy o addasiadau'r BBC o storiau M.R. James, sef The Stalls of Barchester ac A Warning to the Curious. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl ar Keeping Up Appearances fel Richard Bucket, gŵr amyneddgar Hyacinth. Serenodd Swift yn addasiad y BBC o The Barchester Chronicles ac ymddangosodd yn stori Doctor Who, Revelation of the Daleks. Ar 25 Rhagfyr 2007, ymddangosodd yn rhifyn arbennig Nadolig Doctor Who fel Mr Copper. Bu hefyd yn chwarae Sir Ector, tad mabwysiadol Brenin Arthur yn y ffilm Excalibur gan John Boorman yn 1981.
Yn ogystal ag actio, roedd yn gyfansoddwr caneuon. Ymddangosodd llawer o'i ganeuon yn ei sioe, Richard Bucket Overflows: An Audience with Clive Swift, a deithiodd wledydd Prydain yn 2007 a Clive Swift Entertains, lle berfformiodd ei gerddoriaeth a'i geiriau ei hun, a deithiodd wledydd Prydain yn 2009. Bu hefyd yn chwarae rhan y Parchedig Eustacius Brewer yn Born a Bred, a ddarlledwyd ar BBC 1 o 2002 i 2005.[3]
Roedd Swift yn briod â'r nofelydd Margaret Drabble o 1960 hyd eu ysgariad ym 1975.[4] Roedd yn dad i un ferch, Rebecca (a fu farw ym mis Ebrill 2017), a oedd yn adnabyddus am redeg The Literary Consultancy in London, a dau fab, Adam Swift, academydd, a Joe Swift, dylunydd gardd, newyddiadurwr a chyflwynydd teledu.[5]
Bu farw Swift ar 1 Chwefror 2019, yn ei gartref yn 82 oed.[6] Treuliodd ei ddyddiau olaf gyda'i deulu[7] yn dilyn arhosiad byr yn Ysbyty St Mary's, Llundain lle cafodd ei drin am salwch byr.
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1965 | Catch Us If You Can[8] | Duffie | |
1968 | A Midsummer Night's Dream[9] | Snug | |
1972 | Frenzy[10] | Johnny Porter | |
1972 | Death Line[11] | Inspector Richardson | |
1973 | The National Health[12] | Ash | |
1973 | Man at the Top[13] | Massey | |
1978 | The Sailor's Return[14] | Reverend Pottock | |
1981 | Excalibur[15] | Ector | |
1984 | Memed My Hawk[16] | Magistrate | |
1984 | A Passage to India[3] | Major Callendar | |
1988 | Young Toscanini[17] | Comparsa | Heb gydnabyddiaeth |
1997 | Gaston's War[18] | General James | |
2004 | Othello[19] |
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1971 | The Stalls of Barchester[20] | Dr. Black | |
1972 | The Liver Birds[21] | Jim Royle | 1 pennod |
1972 | Dead of Night[22] | Dan | |
1972 | A Warning to the Curious[23] | Dr. Black | |
1976 | Romeo and Juliet[3] | Friar Lawrence | |
1978 | Bless Me, Father[24] | Fred Dobie | 1 pennod: "Father and Mother" |
1979 | Henry IV, Part 1[25] | Thomas Percy, Earl of Worcester | |
1981 | Winston Churchill: The Wilderness Years[26] | Sir Horace Wilson | |
1982 | Tales of the Unexpected[3] | Latham | 1 pennod: S5, E5 ""Stranger in Town" |
1982 | The Barchester Chronicles | Bishop Proudie | |
1985 | The Pickwick Papers[27] | Tracy Tupman | |
1985 | Doctor Who | Professor Jobel | Revelation of the Daleks[27] |
1986 | First Among Equals | Alec Pimkin | |
1987 | Inspector Morse[27] | Doctor Bartlett | |
1987 | Pack of Lies | Ellis | |
1990–1995 | Keeping Up Appearances[27] | Richard Bucket | Prif rham |
1993 | Heartbeat | Victor Kellerman | |
1994 | Woof![angen ffynhonnell] | Alex Pardoe | |
1997 | The Famous Five[27] | Mr. Pottersham | Five Have a Wonderful Time |
1998 | Peak Practice | Norman Shorthose | |
1999 | Aristocrats | King George II | |
2002–2005 | Born and Bred[27] | Reverend Eustacius Brewer | |
2007 | Doctor Who | Mr. Copper | "Voyage of the Damned" |
2009–2010 | The Old Guys[3][27] | Roy | |
2011 | Hustle | Yusef | |
2014 | Cuckoo[3] | Dr. Rafferty | 1 pennod |
2017 | Midsomer Murders[28] | Felix Hope | (ymddangosiad olaf) |