Enw llawn | Clwb Rygbi'r Beddau | |
---|---|---|
Sefydlwyd | 1951/52 | |
Maes | Parc Mount Pleasant | |
Hyfforddwr | Brett Davey, Duane Goodfield | |
Cynghrair | Cynghrair URC | |
2010/11 | 5ed[1] | |
|
Mae Clwb Rygbi'r Beddau yn glwb rygbi'r undeb sy'n cynrychioli'r pentref Y Beddau yn Ne Cymru. Cafodd y clwb presennol ei sefydlu yn 1951-52, ond gellir olrhain ei wreiddiau yn ôl i dua 1900. Mae Clwb Rygbi'r Beddau yn aelod o'r Undeb Rygbi Cymru ac yn porthi'r Gleision Caerdydd.[2]
Cafodd y Beddau glwb rygbi o dua 1900 tan yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y Rhyfel cafodd yr archifau clwb eu dinistro ac eithro rhai lluniau o dimau Clwb Rygbi'r Beddau o'r 1930au.[3]
Cafodd Clwb Rygbi'r Beddau ei ail-sefydlu yn 1951-52[4] a mae wedi cael ei lleoli yn Castellau Road, Y Beddau ers hynny. Mae'r Clwb yn chwarae ym Mharc Mount Pleasant yn y Beddau.
Heddiw, mae'r clwb yn chwarae yn y Gynghrair URC. Yn nhymor 2006-07, enillodd Clwb Rygbi'r Beddau yn Nghynghrair 1 Dwyrain, ond ni chafodd ei ddyrchafu i'r Brif Gynghraid gan nid oedd ei faes yn cyfateb ag anghenion URC. Cafodd y penderfyniad hwn ei ategu mewn cyfarfod arbennig gan 67% o'r aelodau.[5] Ers iddo ennill yn y gynghrair, mae'r tîm cyntaf wedi stryffaglio a maen nhw wedi osgoi alltudiaeth yn ystod y tri thymor diwethaf. Mae gan y Clwb dîm hyfforddwyr newydd a thîmau cryf a mae'r dyfodol yn edrych yn addawol.