Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 689 metr |
Cyfesurynnau | 52.99969°N 4.01987°W |
Cod OS | SH6454946618 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 104 metr |
Rhiant gopa | Allt Fawr |
Cadwyn fynydd | Y Moelwynion |
Mae Cnicht yn fynydd yn y Moelwynion yn Eryri. Gellir ei ddringo'n weddol hawdd o bentref Croesor. Ambell dro caiff yr enw "Matterhorn Cymru", gan ei fod o'r de-orllewin (ardal Porthmadog neu Groesor) yn edrych yn bur debyg i'r mynydd hwnnw. O'r cyfeiriad arall (wrth ddilyn y llwybr hir sy'n cychwyn gerllaw Nantmor, er enghraifft), prin y mae'n edrych fel mynydd o gwbl, dim ond lle mae'r grib uchel yn gorffen.
Mae'n debyg fod enw'r mynydd yn tarddu o'r cyfenw Saesneg Knight – bu teulu o'r enw hwnnw yn fasnachwyr yng Nghaernarfon ac yn berchen ar dir yn yr ardal. Pan fenthyciwyd yr enw i'r Gymraeg, roedd y cytseiniad a gynrychiolir gan <K> a <gh> yn dal yn cael eu hynganu yn Saesneg ac fe'u cadwyd yn yr enw Cymraeg Cnicht fel <C> (/k/) a <ch> (/χ/).[1]
Yn lleol, dywedir weithiau fod y mynydd yn edrych yn debyg i farchog ('knight' yn Saesneg) neu i helmed marchog.[2]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 689 metr (2260 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.