Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Coed-llai a Pontblyddyn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.133°N 3.095°W |
Cod OS | SJ267601 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Pentref yng nghymuned Coed-llai a Pontblyddyn, Sir y Fflint, Cymru, yw Coed-llai[1][2] ( ynganiad ) (Saesneg: Leeswood). Saif ger priffordd yr A5104, i'r de-ddwyrain o dref Yr Wyddgrug. Gerllaw mae Neuadd Pentrehobyn, tŷ sy'n dyddio o ddechrau'r 17g. Cyn 26 Ionawr 2016 "Coed-llai" oedd enw'r gymuned hefyd, ond "Coed-llai a Pontblyddyn" yw ei henw bellach.[3]
Yng nghyffiniau Coed-llai ceir pentrefi Pontybotgyn, Pontblyddyn a Choed-talon.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[5]
Does dim llawer o wybodaeth am hanes enw y pentref. Mae'r llyfr Leeswood Past and Present, 2005 yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol am y pentref ac yn dangos cofnodion o'r hen enwau. Roedd y pentref yn ganolbwynt i Derfysg Yr Wyddgrug ym 1869. Yn ogystal â rheolwr y pyllau glo yn yr ardal, John Young o Durham, yn gwneud i bobl weithio am lai o gyflog, dywedodd na chaiff gweithwyr ddefnyddio'u Cymraeg wrth weithio. Roedd hyn yn ddigon i weithwyr Coed-llai a'r cyffiniau ddechrau terfysg yn erbyn eu triniaeth.
Yn y 18g, bu'r barwniaid Wynne yn byw yn Neuadd Coed-llai. Gellir dilyn eu llinach yn ôl at Owain Glyndŵr, ac yn ogystal felly, hen Deyrnasoedd Cymru. Adeiladwyd Gatiau Gwynion Coed-llai gan y brodyr Davies o Wrecsam yn y 18g. Crefft y brodyr oedd haearn.
Cynhelwyd Eisteddfod yno ym 1921, ac mae'r gadair yn cael ei chadw ym mynedfa'r ysgol gynradd.
Yn 2015, cynhelwyd Carnifal a Pharêd yng Nghoed-llai am y tro cyntaf wedi bwlch o chwe mlynedd ar hugain. Daeth tua 1,500 o bobl i weld yr achlysur yn ei wedd newydd.
Mae llawer o sillafiadau gwahanol ar gael i'w gweld yng Nghoed-llai ac o'i chwmpas ond, yn ôl Geiriadur yr Academi a llyfrau eraill am enwau llefydd yng Nghymru, 'Coed-llai' ydyw'r sillafiad cywir.[6] Mae angen cyplysnod rhwng yr elfennau 'coed' a 'llai,' ac nid oes angen prif lythyren ar ddechrau'r gair 'llai'.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa yng nghymuned Coed-llai fel a ganlyn:[7][8][9]
Yn y pentref mae'r ysgol gynradd, Ysgol Derwenfa.
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog