Coeden rhychwantu leiaf yw is-set ymylon o graff gysylltiedig anghyfeiriedig gyda phwysau ymylon. Y goeden rhychwantu leiaf yw'r set ymylon sy'n cysylltu pob un o'r fertigau i'w gilydd, heb gylchredau, sydd â chyfanswm pwysau ymyl lleiaf posib. Mae gan bob graff (nid yn anghenrheidol yn gysylltiedig) anghyfeiriedig gyda phwysau ymylon goedwig rychwantu leiaf, hynny undeb y coed rhychwantu lleiaf pob un o'i gydrannau cysylltiedig.[1]
Mae nifer o ddefnyddiau ar gyfer coed rhychwantu lleiaf. Un enghraifft fyddai cwmni telathrebu sy'n ceisio gosod cebl mewn cymdogaeth newydd. Os gall y cwmni ond gladdu'r cebl ar hyd rhai llwybrau yn unig (ee ffyrdd), yna mae gan ryw graff fertigau (ee tai) wedi'u cysylltu gan y llwybrau hynny. Efallai bydd gosod ceblau ar hyd rhai o'r llwybrau'n ddrytach, oherwydd eu bod yn hirach, neu'n mae angen eu claddu'n ddyfnach; byddai'r llwybrau hyn yn cael eu cynrychioli gan ymylon â phwysau mwy. Does dim gofyniad i hyd ymyl ufuddhau i reolau geometreg arferol megis yr anhafaledd triongl . Byddai coeden rhychwantu ar gyfer y graff hwn yn is-set o'r llwybrau hynny heb gylchredau sy'n cysylltu pob tŷ; efallai y bydd sawl coeden rychwantu yn bosibl. Y goeden rhychwantu leiaf yw'r un gyda'r cyfanswm cost isaf, sy'n cynrychioli'r llwybr lleiaf drud ar gyfer gosod y cebl.
Un algorithm barus ar gyfer canfod coeden rhychwantu leiaf graff yw algorithm Kruskal.[3] Camau'r algorithm yw:
Algorithmau eraill gellir eu defnyddio yw algorithm Borůvka[4], ac algorithm Prim[5].