Traddodiad coginio Canoldirol sydd gan goginiaeth Sbaen, a nodir gan berlysiau megis penrhudd, teim, rhos Mair, a garlleg.[1]
Dau fath o bryd sydd i'w gael yn Sbaen yn y bore: desayuno ac almuerzo. Dim ond brecwast bychan iawn ydy'r desayuno, fel arfer cwpan o goffi neu ddiod siocled poeth, efallai gyda thamaid o fara neu grwst cyn mynd i'r gwaith neu'r ysgol. Bwyteir almuerzo yn ddiweddarach yn y bore, a chan amlaf mae'n cynnwys coffi a rhôl fara.[2]
Bwyteir cinio canol dydd, comida, tua 2 neu 3 o'r gloch. Pryd mawr ydyw, sy'n gallu cynnwys nifer o seigiau a phara am sawl awr. Yn draddodiadol, byddai Sbaenwyr yn dwad adref am ginio, ac yn cysgu siesta yn ystod oriau poethaf y dydd. Yn yr oes fodern, mae nifer o bobl yn mynd i fwytai am ginio cyn iddynt ddychwelyd i'r gwaith, ac yn hepgor y siesta.[3]
Bwyteir tamaid i aros pryd, merienda, yn hwyr y prynhawn, rhwng 5 a 7 o'r gloch, yn enwedig gan blant. Mae eraill yn mynd allan am tapeo ar ôl gorffen gwaith, rhwng 7 a 9 o'r gloch, ac yn cael diod archwaeth (sieri, gwin, neu gwrw) gydag amryw o seigiau bychain o fwyd.[3]
Gallai pryd olaf y diwrnod gael ei fwyta mor hwyr ag 11 o'r gloch, fel pryd teuluol yn y cartref. Mae'n debyg i ginio'r prynhawn, ond fel arfer yn llai o faint. Adeg gwyliau a dathliadau gall fod yn bryd mawr, ac weithiau byddai'r teulu yn mynd allan i fwyta. Fel rheol mae tri chwrs: cawl neu salad i ddechrau, prif saig o gig neu bysgod, a phwdin megis tarten, teisen, neu ffrwythau.[3]