![]() | |
Math | bwlch ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ain ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 1,498 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 45.903456°N 5.761647°E ![]() |
Cadwyn fynydd | Jura ![]() |
![]() | |
Bwlch yw'r Col du Grand Colombier (uchder: 1,501 medr, neu 4,925 troedfedd), a leolir ym mynyddoedd Jura yn Ffrainc.
Lleolir y bwlch ar ben mwyaf deheuol y Jura yn massif y Grand Colombier. Ynghyd â Col du Chasseral, dyma'r fwlch ffordd uchaf yn y Jura. Croesai rhwng y Grand Colombier (uchder: 1,531 medr, neu 5,023 troedfedd) a'r Croix du Colombier (ucher: 1,525 medr, neu 5,003 troedfedd), a ellir ei gyrchu ar lwybr o'r bwlch.
Mae golygfeydd o gopa'r bwlch, i lawr i ddyffryn Rhône, Llyn Bourget a cheunant Val-de-Fier, neu y ffordd arall gweler copaon yr Alpau.
Mae hon yn un o'r bylchau caletaf i'w ddringo yn Ffrainc, gyda rhai adrannau dros 20% ar yr esgynniad o Artemare a Virieu-le-Petit ar yr ochr Bugey (gorllewinol).[1] Defnyddir y bwlch yn aml mewn rasus beic ar y ffordd, gan ymddangos yn gyson yn y Tour de l'Ain, a defnyddir hefyd yn y Critérium du Dauphiné a'r Tour de l'Avenir.
O Culoz ar yr ochr deheuol, mae'r esgynniad yn 18.3 cilomedr, gan godi 1,255 medr, gyda llethr o 6.9% ar gyfartaledd,[2] ond gyda rhai adrannau o 12%.[3] Dyma'r esgynniad a ddefnyddwyd yng nghymal 5 Critérium du Dauphiné 2012[4] a chymal 10 o Tour de France 2012.[3]
Gellir cyrraedd y Col hefyd o Anglefort ar yr ochr dwyreiniol, gyda esgynniad o 15.2 cilomedr o hyd, yn codi 1,205 medr ar gyfartaledd o 7.9%.[5]
Ymwelwyd gan y Tour de France am y tro cyntaf yn ystod Cymal 10 o Tour 2012[6] fel esgynniad Hors Catégorie.