Math | colig |
---|
Mae colig babi, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel colig babanaidd, yn cael ei ddiffinio fel pyliau o grïo am fwy na thair awr y dydd, am fwy na thair wythnos mewn plentyn sydd fel arall yn iach. Mae'r crïo yn aml yn digwydd gyda'r nos. Nid yw fel arfer yn achosi problemau tymor hir.[1] Gall y crïo beri rhwystredigaeth i'r rhieni, iselder yn dilyn genedigaeth, ymweliadau aml a'r meddyg, a cham-drin plant.[2]
Mae achos colig yn anhysbys. Cred rhai ei fod yn cael ei achosi gan anesmwythder gastro-goluddol, fel crampio coluddol.[3] Mae diagnosis yn galw am sichrau nad oes achosion eraill. Mae twymyn, diffyg gweithgaredd, neu abdomen chwyddedig yn symptomau fyddai'n peri gofid. Llai na 5% o blant sy'n gor-grïo sydd a chlefyd organig.
Mae triniaeth yn geidwadol ar y cyfan, gydag ychydig o ran, os o gwbl, i feddygyniaerthau neu therapiau amgen.[4] Gallai cymorth ychwanegol i rieni fod yn ddefnyddiol. Prin yw'r dystiolaeth sy'n cefnogi'r defnydd o rai probiotigau penodol i'r babi a deiet alergen-isel gan y fam i'r rhai sy'n cael eu bwydo o'r fron. Gallai fformiwla wedi ei hydroleiddio fod yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n cael eu bwydo a photel.
Mae colic yn effeithio ar 10–40% o blant. Mae fwyaf cyffredin pan fyddo'r plentyn yn chwe wythnos oed ac fel arfer yn dod i ben cyn iddynt gyrraedd chwe mis. Anaml iawn y bydd yn parhau hyd at flwydd oed.[5] Mae yr un mor gyffredin mewn bechgyn a merched. Ceir y disgrifiad meddygol cynharaf o'r broblem yn 1954.[6]
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: extra text: authors list (link)CS1 maint: Extra text: authors list (link)
|deadurl=
ignored (help)