Enghraifft o: | asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2 Ebrill 1792 |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asiantaeth o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau o 1792 hyd 1980 oedd Comisiwn Profion yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Assay Commission). Arolygu profion blynyddol ar ddarnau arian aur, arian, ac yn ddiweddarach metelau bas Bathdy'r Unol Daleithiau oedd ei swyddogaeth. Dynodir rhai o aelodau'r comisiwn gan y gyfraith, a dewiswyd y gweddill yn newydd pob blwyddyn o blith Americanwyr amlwg ac yn aml nwmismatyddion. Roedd aelodau'r comisiwn yn derbyn medal, ac mae'r rhain yn brin iawn, ac eithrio medal 1977 a gafodd ei gwerthu i'r cyhoedd.
Awdurdodwyd y Comisiwn Profion gan Ddeddf Bathdy 1792. Cyfarfu am y tro cyntaf ym 1797, ac yn aml bu'n ymgynnull ym Mathdy Philadelphia. Bydd Arlywydd yr Unol Daleithiau yn penodi aelodau'r comisiwn pob blwyddyn, a buont yn sicrhau bod pwysau ac ansawdd y darnau arian aur ac arian a gynhyrchir y flwyddyn gynt yn bodloni safonau. Ym 1971 cyfarfu y comisiwn ond nid oedd ganddynt ddarnau aur nac arian i'w mesur. O 1977 ymlaen, ni phenododd yr Arlywydd Jimmy Carter aelodau'r cyhoedd i'r comisiwn, ac ym 1980 arwyddodd ddeddf i'w ddiddymu.
|note=
ignored (help)