Conrad I, brenin yr Almaen | |
---|---|
Ganwyd | 881 |
Bu farw | 23 Rhagfyr 918, 23 Rhagfyr 918 Weilburg |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Swydd | king of East Francia |
Tad | Conrad, Duke of Thuringia |
Mam | Glismut |
Priod | Cunigunde of Swabia |
Plant | Hikinna |
Llinach | Conradines |
Dug Franconia o 906 a Brenin yr Almaen, o 911 hyd ei farwolaeth, oedd Conrad I, neu Conrad yr Ieuaf (Almaeneg: Konrad) (890 – 23 Rhagfyr 918). Ef oedd unig aelod o linach Conradaidd i fod yn frenin yr Almaen. Er na ddefnyddiodd Conrad erioed y teitl "Brenin yr Almaen" (rex Teutonicorum), ef oedd brenin Dwyrain Francia fel olynydd etholedig Carolingiaidd Louis y Plentyn, esblygodd y deyrnas hon i ddod yn yr Almaen yn y ganrif canlynol.
Roedd Conrad yn fab i Conrad yr Hynaf, a Glismut, merch yr ymerawdwr Arnulf o Garinthia. Roedd y Conradaidd, a oedd yn cowntiaid yn ardal Lahn, a'r Babenbergs, cowntiaid Main, yn cystadlu'n frwd er mwyn llywodraethu Franconia. Yn 906, bu brwydr ger Fritzlar, lladdwyd Conrad yr Hynaf, yn ogystal â dau o'r tri brodyr Babenberg; dieinyddwyd y trydydd un fuan wedyn, er addewid yr archesgob Hatto I o Mainz, canghellor y deyrnas, i gadarnhau cludiant diogel iddo. Daeth Conrad y Ieuaf yn Ddug Ffranconia yn dilyn hyn.
Priododd Conrad chwaer Erchanger, cownt o Swabia, er mwyn adnewyddu perthynas dda rhwng y teuluoedd yn 913. Cafodd Conrad dau o blant gyda Cunigunda, a oedd yn wraig gweddw Liutpold a mam Dug Arnulf o Bafaria: Cunigunda a Herman, a'u ganwyd yn 913.
Etholwyd Conrad yn Frenin y Deyrnas Francaidd Dwyreiniol ar 10 Tachwedd 911, a Forchheim wedi marwolaeth ei ewythr, y Carolingyn Francaidd Dwyreiniol olaf, Louis y Plentyn.
Yn ystod ei deyrn, bu ymdrech cyson i geisio cadw gafael ar ei reolaeth dros y deyrnas, ond bu'n anlwyddianus fel rheol yn erbyn dugiau Sacsoni, Bafaria a Swabia. Bu ei ymgyrchoedd milwrol yn fethianau, a ni fu ei ymgais i ymfyddino'r esgobiad yn ei achos yn synod Hohenaltheim (916) yn ddigon er mwyn digolledu. Bu farw Conrad ar 23 Rhagfyr 918 yn Weilburg. Claddwyd yn Fulda.
Ar ei wely angau, perswadiodd ei frawd, Margrave Eberhard o Franconia, i gynnig y goron i Harri yr Adarwr, dug Sacsoni ac un o'i brif wrthwynebwyr, gan y cysidrodd Conrad mai Harri oedd yr unig dywysog a oedd yn ddigon fedrus i gadw'r deyrnas yn un, ac ymladd y gystadleuaeth mewnol a oedd yn parahu ymysg u dugiaid a'r ymosodiadau di-ddiwedd gan y Hwngariad. Derbyniodd Eberhard a'r boneddigion Francaidd gyngor Conrad, ac etholwyd Harri'n frenin, fel Harri I, brenin Reichstag yn 919 yn Fritzlar.
Olynyd Conrad gan Eberhard fel dug Franconia. Lladdwyd ef yn 939 ym Mrwydr Andernach yn ystod ei wrthryfel yn erbyn yr Ymerawdwr Otto I, a daeth dugiaeth Franconia yn eiddo ymerodrol o 939 hyd 1024.
Rhagflaenydd: Louis y Plentyn |
Brenin yr Almaen 912–918 |
Olynydd: Harri I yr Adarwr |
Rhagflaenydd: ' |
Dug Franconia 906–918 |
Olynydd: Eberhard III |