Coprosma repens | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Coprosma |
Rhywogaeth: | C. repens |
Enw deuenwol | |
Coprosma repens A.Rich. | |
Cyfystyron | |
Coprosma baueriana Hook. f. |
Coprosma repens | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Cytras: | Tracheophytes |
Cytras | Angiosperms |
Cytras: | Eudicots |
Cytras: | Asterids |
Trefn: | Gentianales |
Teulu: | Rubiaceae |
Genws: | Coprosma |
Rhywogaeth: | C. repens
|
Enw binomaidd | |
Coprosma repens | |
Cyfystyron | |
Coprosma baueriana Hook. f.
Coprosma baueri auct. non Endl.
Coprosma retusa Hook. f |
Rhywogaeth o lwyn blodeuol neu goeden fechan o'r genws Coprosma, yn y teulu Rubiaceae, sy'n frodorol o Aotearoa yw Coprosma repens . [1] Ymhlith yr enwau cyffredin mae taupata (Māori),tree bedstraw, mirror bush, lookng-glass bush, New Zealand laurel a shiny leaf yn Saesneg . [2] [3] [4]
Mae cynefin y rhywogaeth hon yn amrywio'n fawr gyda'i sefyllfa. Mewn sefyllfaoedd agored, megis clogwyni, mae'n mabwysiadu arfer ymledol, tra mewn ardaloedd mwy cysgodol gall dyfu fel coeden fach hyd at 8 metr o uchder. [5] Mae ganddo ddail trwchus a sgleiniog iawn sy'n amrywio'n sylweddol o ran maint, yn dibynnu ar amlygiad i'r elfennau. Mae ymylon y dail yn atroëdig, weithiau i'r graddau y gall y ddeilen fod yn silindrog mewn croestoriad. [5] Mae'r dail sgleiniog yn helpu i oroesi ger lleoliadau arfordirol.
Mae C. repens yn ddeuoecaidd . Cynhyrchir blodau yn y gwanwyn a'r haf, gyda'r blodau gwrywaidd yn ymddangos mewn clystyrau trwchus, cyfansawdd, a'r blodau benywaidd mewn clystyrau llai. [3] Mae gan flodau gwrywaidd gorolla siâp twndis/twmffat sy'n 5 mm o hyd, gyda llabedau hafal i'r tiwb. Mae gan flodau benywaidd blodamlenni byr, a chorolla tiwbaidd 3 mm o hyd, gyda llabedau yn fyrrach na'r tiwb. Mae planhigion benywaidd yn cynhyrchu aeron wyffurf oren-goch, sydd tua 8 mm mewn diamedr a 10 mm o hyd. [5]
Mae'r rhywogaeth yn frodorol i Ynys y Gogledd, Ynys y De, Ynysoedd Kermadec ac Ynysoedd Three Kings yn Aotearoa. [5]
Yn Awstralia, mae wedi cynefino'n naturiol yn ardaloedd arfordirol Victoria, De Cymru Newydd, De Awstralia, Gorllewin Awstralia a Tasmania, [3] ac mae bellach yn cael ei ddosbarthu fel chwyn amgylcheddol yno. [2]
Bellach hefyd mae wedi cynefino ar Ynysoedd Syllan, Cernyw, gorllewin Ewrop.
Mae'r rhywogaeth wedi bod yn boblogaidd mewn gerddi arfordirol oherwydd ei allu i wrthsefyll halen môr. [2] Er ei bod yn well ganddo briddoedd tywodlyd sydd wedi'u draenio'n dda, gall ymdopi â phriddoedd trymach. [4]
Mae yna nifer fawr o gyltifarau :
Mae'r cyltifarau 'Marble Queen' [7] a 'Picturata' [8] wedi ennill Gwobr Teilyngdod Gardd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (cadarnhawyd 2017). [9]
<ref>
annilys; mae'r enw "AWC" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
<ref>
annilys; mae'r enw "NSW" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
<ref>
annilys; mae'r enw "DEH" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
<ref>
annilys; mae'r enw "NZ" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol