Cornbilen

Cornbilen
Math o gyfrwngdosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathfibrous tunic of eyeball, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan ohuman eye, llygad Edit this on Wikidata
Cysylltir gydasglera, tear film Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscorneal epithelium, Bowman's membrane, corneal stroma, Descemet's membrane, corneal endothelium Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llygad dynol

Rhan flaen dryloyw y llygad sy’n gorchuddio’r iris, cannwyll y llygad a’r siambr flaen ydy’r gornbilen. Mae’r gornbilen, fel y siambr flaen a’r lens, yn plygu golau ac yn darparu dau draean o nerth optegol cyfan y llygad. Mae’r gornbilen yn cyfrannu at y mwyafrif o nerth canolbwyntio’r llygad, ond sefydlog ydy’r ffocysu. Gan gymhwyso crymedd y lens, mireinir y ffocws yn ôl pellter y gwrthrych. 

Strwythur

[golygu | golygu cod]

Mae gan y gornbilen terfynau nerfau anfyelinog sy'n synhwyro cyffwrdd, tymheredd a chemegion. Mae cyffwrdd â'r gornbilen yn peri atgyrch anwirfoddol i gau'r amrant. Oherwydd bod tryloywder yn hollbwysig, nid oes gan y gornbilen bibellau gwaed. Yn eu lle, mae ocsigen yn hydoddi mewn dagrau ac yn tryledu ledled y gornbilen i'w chadw'n iach.[1]

Yn yr un modd mae maetholion yn cael eu cludo trwy dryledu o'r hylif dagrau trwy'r arwyneb allanol. Yn y llygad dynol, mae gan y gornbilen diamedr o oddeutu 11.5mm a thrwch 0.5-0.6mm yn y canol a 0.6-0.8mm ar y cyrion. Tryloywder, diffyg pibellau gwaed, presenoldeb celloedd imiwnedd preswyl anaeddfed, a braint imiwnolegol sy'n neilltuo'r gornbilen fel meinwe arbennig iawn.

Albumin yw'r protein hydawdd mwyaf helaeth yn y gornbilen famolaidd.[2]

Mewn llysywod pendoll, estyniad o'r sglera yn unig ydy'r gornbilen ac mae hi ar wahân o'r croen uwchlaw. Mewn fertebratau mwy datblygedig, mae hi bob amser yn ymdoddi â'r croen i ffurfio strwythur unigol, er ei bod hi'n cynnwys haenau amryfal. Mewn pysgod, a fertebratau dyfrol yn gyffredinol, dyw'r gornbilen ddim yn ffocysu golau o gwbl gan fod ganddi hi bron yr un indecs plygiant â dŵr.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.aclm.org.uk/index.php?url=04_FAQs/default.php&Q=3
  2. Nees, David W.; Fariss, Robert N.; Piatigorsky, Joram (2003). "Serum Albumin in Mammalian Cornea: Implications for Clinical Application". Investigative Ophthalmology & Visual Science. 44 (8): 3339–45. PMID 12882779. doi:10.1167/iovs.02-1161.
  3. Romer, Alfred Sherwood; Parsons, Thomas S. (1977). The Vertebrate Body. Philadelphia: Holt-Saunders International. pp. 461–2. ISBN 0-03-910284-X.