Cosb gorfforol

Cosb am droseddu yw cosb gorfforol a weinyddir gan lys barn, gan riant neu ysgol er mwyn newid agwedd y troseddwr neu er mwyn ceisio ei atal rhag ail droseddu.

Ysgolion

[golygu | golygu cod]

Yn 1991, yng ngwledydd Prydain, cafodd taro neu chwipio disgybl ei wahardd mewn ysgolion oedd yn cael arian gan y Llywodraeth, ac mewn ysgolion preifat ers 1999.

Mewn holiadur o 6,162 o athrawon gan y Times Educational Supplement, canfuwyd fod un allan o bob pump athro a 22% o athrawon uwchradd yn credu y dylai'r wialen fedw gael ei hail gyflwyno.[1][2] Mae rhai taleithiau yn yr Unol daleithiau yn dal i gosbi plant yn yr ysgolion.

Y cartref

[golygu | golygu cod]
Tros olwg o Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

Yn y cartref, Sweden oedd y wlad gyntaf i wahardd unrhyw fath o daro plentyn yn y cartref, a hynny yn 1979. Mae pob gwlad yn America, Asia ac Affrica yn dal i ganiatáu chwipio neu daro plant yn y cartref. Felly hefyd Lloegr ond mae'r Alban wedi'i wahardd.

Llysoedd barn

[golygu | golygu cod]

Mae nifer o wledydd yn parhau i gosbi'n gorfforol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  A 'fifth of teachers back caning'. BBC News Online. BBC News Online (3 Hydref 2008). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2010.
  2.  Adi Bloom (10 Hydref 2008). Survey whips up debate on caning. Times Educational Supplement. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2010.