Crac cocên

Crac cocên
Math o gyfrwngsymbylydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscocên Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae crac cocên,[1] a adwaenir yn syml fel crac,[2] yn fath o gocên y gellir ei ysmygu. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel y math mwyaf caethiwus o gocên.

Y defnydd eang cyntaf o grac fel cyffur hamdden oedd yn y 1980au hwyr yn yr Unol Daleithiau. Daeth yn gyffredin mewn cymdogaethau tlawd mewn llawer o ddinasoedd, gan gynnwys Baltimore, Chicago, Efrog Newydd, Los Angeles, Miami, Philadelphia, San Francisco a Washington DC. Daeth y cyfnod hwn o amser yn adnabyddus fel yr "epidemig crac". Dechreuodd yr epidemig ddiflannu yn y 1990au, ar ôl cael ei olynu gan yr epidemig crisialau meth a barhaodd tan y 2000au.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.