Cristnogaeth ym Maleisia

Cristnogaeth yw'r drydedd chrefydd fwyaf o ran nifer o ddilynwyr (9.2% o'r boblogaeth) ym Maleisia.[1] Ymhlith yr enwadau a ddilynir mae Anglicaniaeth, Pabyddiaeth, ac enwadau Protestanaidd. Yn Sarawak mae mwyafrif yr Iban a'r Bidayuh, a hefyd lleiafrif o'r Melanau, yn Gristnogion. Yn Sabah, mae mwyafrif y Kadazan a'r Murut yn Gristnogion.[2]

Ceir tensiynau rhwng Islam, sef crefydd fwyafrifol y wlad, a'r crefyddau eraill ym Maleisia.[3] Er enghraifft, ni cheir crefyddau eraill defnyddio'r gair Allah am dduw, er taw dyna'r gair traddodiadol yn y Faleieg, ac yn 2014 cymerwyd Beiblau oddi ar Gymdeithas y Beibl am dorri'r ddeddf hon.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Maleieg) (Saesneg)  Taburan Penduduk dan Ciri-ciri Asas Demografi/Population Distribution and Basic Demographic Characteristics 2010. Llywodraeth Maleisia. Adalwyd ar 26 Ionawr 2014.
  2. (Saesneg) Malaysia: Religion. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ionawr 2014.
  3. (Saesneg) Malaysia Religion. GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 26 Ionawr 2014.
  4. (Saesneg) More than 300 Bibles are confiscated in Malaysia. BBC (2 Ionawr 2014). Adalwyd ar 26 Ionawr 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Faleisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.