![]() | |
Math | cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8319°N 3.4611°W ![]() |
Rheolir gan | Dŵr Cymru ![]() |
![]() | |
Cronfa ddŵr yn ne Powys yw Cronfa Cantref, a leolir yn ardal y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'n rhan o gyfres o dair cronfa a godwyd ar Afon Taf Fawr ger ei tharddle i gyflenwi dŵr i gymoedd De Cymru. Yn uwch i fyny'r afon ceir Cronfa'r Bannau ac yn is i lawr ceir Cronfa Llwyn-onn, gyda Chronfa Cantref rhwng y ddwy. Rhed y ffordd A470 heibio i'r llyn.