Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | North Pennines |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 893 metr |
Cyfesurynnau | 54.7028°N 2.4872°W |
Cod OS | NY6871834336 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 651 metr |
Rhiant gopa | Helvellyn |
Cadwyn fynydd | Pennines |
Cross Fell (2,930' / 893m) yw mynydd uchaf bryniau'r Pennines yng ngogledd Lloegr. Yn ogystal â bod y pwynt uchaf yn y Pennines, dyma'r copa uchaf yn Lloegr tu allan i Ardal y Llynnoedd. Llwyfandir uchel creigiog yw'r copa, sy'n rhan o gefnen 20 km o hyd sy'n rhedeg o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, ac sy'n cynnwys hefyd Little Dun Fell (842 m) a Great Dun Fell (849 m). Gyda'i gilydd mae'r copaon hyn yn ffurfio rhes o glogwynni sy'n codi'n syrth uchlaw Dyffryn Eden i'r de-orllewin ond yn disgyn yn llai syrth ar eu llethrau gogledd-ddwyreiniol i gyfeiriad cymoedd Tyne a Tees.
Ar ddiwrnod braf ceir golygfeydd gwych o'r cysgodfa ar y copa dros Ddyffryn Eden i fynyddoedd Ardal y Llynnoedd. O lethrau gogleddol Cross Fell ceir golygfeydd da i gyfeiriad Moryd Solway ac ucheldir De'r Alban.