"Yr hyn sy'n galluogi'r sofran doeth a'r cadfridog da i ymosod a gorchfygu, ac i lwyddo'r tu hwnt i ddynion cyffredin, yw rhagwybodaeth."
Maes a phroses yw cudd-wybodaeth sy'n ymwneud â gwybodaeth sydd yn berthnasol i wladwriaeth wrth ffurfio a gweithredu polisi ac wrth amddiffyn yn erbyn bygythiadau i'w diogelwch cenedlaethol.[1] Mae'r term hefyd yn cyfeirio at y wybodaeth a gynhyrchir gan y broses honno.[2] Fe'i hystyrid yn elfen hanfodol o strategaeth filwrol[3] ac offeryn pwysig wrth lunio polisi tramor ac amddiffyn, ac yn achos gweithredu cudd wrth weithredu polisi yn ogystal â'i hysbysu.[4]
Mae union broses cudd-wybodaeth yn amrywio yn ôl ardal a chyfnod, ond hollbresennol yw'r drefn o weithwyr yn casglu a dadansoddi'r wybodaeth, ac yna gwneuthurwyr polisi yn ei hystyried a'u defnyddio.[3] Gelwir y model mwyaf cyffredin o'r broses gudd-wybodaeth yn y cylchred cudd-wybodaeth. Mae hwn yn cynnwys pennu dibenion cudd-wybodaeth, ei chasglu, ei dadansoddi, ei chyflwyno i wneuthurwyr polisi, ac yna o'r adborth caiff anghenion y gwneuthurwyr polisi eu cymryd mewn i ystyriaeth wrth bennu dibenion a chasglu unwaith eto.[5]
Mae'r mathau o gudd-wybodaeth a gesglir yn cynnwys:[6]
Gwybodaeth a ddaw o systemau delweddu, yn bennaf lloerenni, gan ddefnyddio technoleg ffotograffiaeth, radar, a synwyryddion is-goch.
Gwybodaeth a ddaw o bobl, a gesglir yn agored oddi wrth ddiplomyddion a swyddogion milwrol ac yn gudd oddi wrth ysbiwyr. Gall dod hefyd o ffoaduriaid a gwrthgilwyr.
Gwybodaeth a ddaw o'r parth cyhoeddus, megis gwefannau, papurau newydd, teledu, radio, a dogfennau llywodraethol.
Gwybodaeth a ddaw o signalau rhwng pobl, sef cudd-wybodaeth gyfathrebu (COMINT), neu signalau electronig fel arall (ELINT).
Pwrpas dadansoddi cudd-wybodaeth yw i wneud synnwyr o'r holl wybodaeth a gesglir, i wahanu'r signalau o'r sŵn (yma mae signalau yn cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol, nid signalau yn ystyr SIGINT). Cyfrifoldeb y dadansoddwr yw i hysbysu gwneuthurwyr polisi, ac i alluogi hwy i weithredu er buddiannau'r wlad gan ddefnyddio'r cudd-wybodaeth a roddir iddynt.[7] Nid yn unig yw dadansoddi yn ymdrin â dehongli gallu, bwriad, a gweithgareddau'r gelyn yn y presennol, ond hefyd yn ceisio rhagfynegi gallu, bwriad, a gweithgareddau'r gelyn yn y dyfodol.[8]
Y gallu i roi pwysau ar lywodraeth dramor heb i'r llywodraeth honno wybod ffynhonnell y pwysau yw gweithredu cudd.[9][10] Mae gweithredu cudd yn cynnwys pedair is-ddisgyblaeth: propaganda, gweithredu gwleidyddol, gweithredu parafilwrol, a rhyfela gwybodaeth.[9] Mae gweithredu cudd yn anodd ei ddiffinio o fewn maes cudd-wybodaeth, a chwestiynir os yw'n rhan o ddisgyblaeth cudd-wybodaeth o gwbl gan ei fod yn ymwneud â gweithredu polisi tramor yn hytrach na chasglu a dadansoddi gwybodaeth y seilir polisi tramor arni.[11] Er hyn, cysylltir gweithredu cudd â chudd-wybodaeth gan fod asiantaethau cudd-wybodaeth gan amlaf yn ei weithredu.[12]
Mae gwrth-ysbïwriaeth yn ymwneud ag amddiffyn medrau cudd-wybodaeth y wladwriaeth rhag gweithgareddau cudd-wybodaeth y gelyn.[13]
Gelwir cudd-wybodaeth, yn benodol ysbïwriaeth, yn "yr alwedigaeth hynaf ond un" o ganlyniad i'w hanes hir sy'n ymestyn yn ôl i'r Henfyd.[14][15]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gelwir y maes academaidd rhyngddisgyblaethol sydd yn ymwneud â chudd-wybodaeth yn astudiaethau cudd-wybodaeth. Mae'n is-faes o gysylltiadau rhyngwladol.