Cumann na nGaedheal Cumann na nGaedheal | |
---|---|
Leader | W.T. Cosgrave |
Sefydlwyd | 27 Ebrilll 1923 |
Daeth i ben | Medi 1933 |
Holltwyd oddi wrth | Sinn Féin |
Unwyd i greu | Fine Gael |
Rhestr o idiolegau | Democratiaeth Gristnogol Ceidwadaeth Cenedlaetholdeb Gwyddelig |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol-dde |
Roedd Cumann na nGaedhael (IPA:ˈkʊmˠənˠ nˠə ˈŋeːl̪ˠ) yn Gymraeg, "Cymdeithas yr Gwyddel", yn blaid wleidyddol yng Ngwladwriaeth Rydd Iwerddon.
Arddelwyd yr un enw (ac ni ddylid cymysgu hi) â mudiad a sefydlwyd yn 1900 gan Arthur Griffith a William Rooney. Roedd y grŵp yma'n gasgliad o'r holl glybiau Weriniaethol, ac yn 1905 ymunodd grwpiau â grwpiau eraill i sefydlu Sinn Féin.
Sefydlwyd plaid Cumann na nGaedheal ar 27 Ebrill 1923 gan aelodau TD Sinn Féin oedd o blaid y Cytundeb Eingl-Wyddelig a arwyddwyd gan Lywodraeth Dros-dro Iwerddon wedi'r Rhyfel Annibyniaeth. Y prif sylfaenydd oedd W.T. Cosgrave sef un o ffigurau amlycaf y mudiad gweriniaethol wedi llofruddiaeth Michael Collins yn 1922 gan luoedd yn erbyn y Cytundeb a marwolaeth naturiol Arthur Griffith (sylfaenydd y mudiad gwreiddiol) yn yr un flwyddyn. Yn etholiad 1923 i'r senedd genedlaethol newydd, Dáil Éireann, enillodd y blaid newydd 63 o seddi. Dyma'r blaid fu'n llywodraeth Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn ystod ei degawd ffurfiannol.
Roedd Cumann na nGaedheal yn derbyn rhaniad Iwerddon ac dechreuant ar roi seilwaith i sefydlu'r Wladwriaeth Rydd.[1] Sefydlwyd yr heddlu newydd. Gellir nodi rhai o gerrig milltir degawd y blaid mewn grym:[2]
Dilynodd y Blaid polisi cyllidol geidwadol a chodwyd oedran codi pensiwn. Achosodd hyn i'r blaid golli pleidleisiau yn etholiad Mehefin 1927 gan ennill ond 47 sedd (27% o'r bleidlais) a llwyddasant i aros mewn grym dim ond oherwydd bod Fianna Fail (y blaid gwrth-Gytyndeb dan arweinyddiaeth Eamon de Valera, a oedd wedi ennill 44) sedd yn dilyn polisi o beidio cymryd eu seddi yn y senedd pro-Cytundeb. Ond yn dilyn llofruddiaeth y Gweinidog Catref Kevin O’Higgins gan wrthwynebwyr, galwodd Cosgrave etholiad brys ym mis MEdi 1929 a'r tro yma adferpdd CnG ei lle gan ennill 67 sedd a 39% o'r bleidlais.
Roedd y blaid y cefnogi masnach rydd a cyllideb heb fenthyca ac yn erbyn diffyndollaeth. Gydag effeithiau'r Dirwasgiad Mawr collodd y blaid etholiadau Dáil Éireann yn Chwefror 1932 i blaid Fianna Fail (enillodd CnaG 57 sedd a Fianna Fáil 72). Roedd Fianna Fail yn arddel polisiau mwy poblogeiddiol o blaid diffyndollaeth ac ysgogi swyddi. Yn 1933 yn sgil y golled, cynhaliwyd trafodaethau gyda National Centre Party a'r National Guard (y 'Blueshirts') i ffurfio plaid newydd Fine Gael ym mis Medi 1933.
Etholiad | Seddi a enillwyd | ± | Safle | Pleidlais Dewis Gyntaf | % | Llywodraeth | Arweinydd |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Etholiad Cyffredinol GRI, 1923 | 63 / 153
|
5[3] | 1af | 410,695 | 39.0% | Llywod. leiafrifol | W.T. Cosgrave |
Etholiad Cyffredinol GRI, Mehefin 1927 | 47 / 153
|
16 | 1af | 314,703 | 27.4% | Minority gov't (cefnogwyd gan FP ac Annibyn) | W. T. Cosgrave |
[Etholiad Cyffredinol GRI, Medi 1927 (Sep) | 62 / 153
|
15 | 1af | 453,028 | 38.7% | Llywod. leiafrifol (cefnogwyd gan FP ac Annibyn) | W. T. Cosgrave |
Etholiad Cyffredinol GRI, 1932 | 57 / 153
|
5 | 2il | 449,506 | 35.3% | Gwrth-blaid | W. T. Cosgrave |
Etholiad Cyffredinol GRI, 1933 | 48 / 153
|
9 | 2il | 422,495 | 30.5% | Gwrth-blaid | W. T. Cosgrave |