Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6173°N 3.1785°W |
Cod OS | ST185916 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Evans (Llafur) |
Pentref bach yng nghymuned Ynys-ddu, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Cwmfelin-fach.[1] hefyd Cwmfelinfach,[2] (ffurf ddarfodedig yn y Gymraeg, ond a ddefnyddir yn Saesneg). Fe'i lleolir yn Nyffryn Sirhywi yn yr hen Sir Fynwy, i'r gogledd o Wattsville a thua 5 milltir i'r gogledd o'r dref agosaf Rhisga ac i'r de o'r Coed Duon.
I'r dwyrain, mae bryniau Pen-y-Trwyn yn ffinio â'r dyffryn (1,028 troedfedd/313m). I'r gorllewin mae Mynydd y Grug (1,132 tr/345m).
Roedd Cwmfelinfach yn gartref i gymuned glo yn ystod y cyfnod cynnar i ganol yr 20g. Agorodd y pwll glo y Nine Mile Point, tua 1905 a daeth i ben yn 1964. Glofa'r Nine Mile Point oedd safle'r "eistedd fewn" (Sir in') glowyr cyntaf erioed. Yn ystod 1935 bu i'r "streic aros i lawr" yn cynnwys 164 o lowyr. Roeddent yn protestio yn erbyn defnyddio glowyr "sgab"(dynion nad oeddent yn aelodau o'r Ffederasiwn yn wahanol i weddill y gweithlu y pwll). Dim ond wedi i'r cwmni addo na fyddai unrhyw ddynion nad oeddent yn ffedereiddio yn cael eu cyflogi yn y pwll glo. Yn ei gyfanrwydd, parhaodd streic am 177 awr. Roedd glowyr o byllau glo eraill yn yr ardal, rhai yn cymryd camau tebyg, yn cefnogi eu gweithredu.
Pentrefan bychan oedd Cwmfelinfach tan ddiwedd y 19g - felly mae'r rhan fwyaf o dai yn dai teras traddodiadol o'r 20g. Mae map o 1885 yn dangos Melin (capel) y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel Babell.[3]
Ceir bedd y bardd Islwyn (1832-1878) ar gael yma.[4][5]
Ceir ysgol gynradd yn y pentref, Ysgol Gynradd Cwmfelinfach.[6]