Cwpan mislif

Cwpan mislif
Mathfeminine hygiene product Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cwpan mislif, tua 5 cm o hyd, ac eithrio'r echdynwr (extractor)
Cwpan mislif tafladwy sy'n edrych yn debyg i'r diaffrag atal cenhedlu, tua 7.5cm mewn diamedr

Mae'r cwpan mislif yn ddyfais ar gyfer delio gyda'r mislif. Caiff ei ddodi yn y fagina yn ystod y mislif er mwyn casglu'r hylif.[1] Mae'n un o sawl prif ddull ar gyfer delio gyda'r mislif, y dulliau eraill mwy poblogaidd yw'r defnydd o tampon a'r pad mislif.[2]

Mathau

[golygu | golygu cod]

Ceir dau brif fath o gwpan mislid ar y farchnad.

Cwpan Siâp Cloch - dyma'r cwpan mislif fwyaf poblogaidd ac mae wedi ei wneudo silicon meddygol. Mae hwn wedi disodli'r fersiynau latecs nad oedd yn gweddu i bawb. Gellir ail-ddefnyddio'r cwpan cloch a gall barhau hyd at 10 mlynedd os caiff ei gadw'n dda. Tynnir y gwpan allan bob 4–12 awr (gan ddibynnu ar faint y llif), gwaredir y llif, ei rinsio â dŵr ac yna ail-osod. Wedi bob mislif, rhaid berwi'r cwpan am o leiaf 5 munud a'i storio nes y cylch nesaf.[3]
Cwpan Siâp Diaffram - mae'r ail fath yn debyg i'r diaffram atal cenhedlu (er nad yw'n ddyfais atal cenhedlu). Mae hwn yn ddyfais untro ac yn dafladwy.

Yn gyffredinol, gwerthir y cwpanau mewn fferyllfeydd, siopau organig a llysieuol, neu manau sy'n rhoi bri ar gynnych ail-gylchu a canaliadwy.

Mewnosodir y Cwpan Mislif yn y wain (fagina) a gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y cylch menstruol. Gall defnyddwyr y cwpan fel arfer ddewis rhwng dau ddeimensiwn, sy'n addas i siâp eu fagina. Gall y fenyw ddefnyddio hylif iro (lubrication) os yw'r broses o fewnosod yn anodd, ond, fel rheol, bydd hylif menstruol yn y fagina yn ddigonol ar gyfer hwyluso'r broses.

Gosod Cwpan Ail-ddefnydd, 'Cloch'

[golygu | golygu cod]
Mewnosod Cwpan 'Cloch'

Mae'r cwpanau 'cloch' y gellir eu hailddefnyddio'n fwy hyblyg, ac mae yna sawl ffordd o fewnosod trwy eu plygu.[4] Mewnosodir y cwpan siâp clychau nes bod corff y cwpan a'r 'cynffon' yn llwyr y tu mewn i'r fagina, a ddelir o bwynt isaf y soced ac yna'n troi; mae hyn yn peri i'r cwpan agor, gan selio ei ymyl i furiau mewnol y fagina. Mae'r cwpan ailddefnydd yn tueddu i leoli ei hun yn gywir yng ngheg y groch ac nid oes angen iddo fod yn sownd mewn ongl benodol, gan fod ei rhan uchaf yn gwbl agored ac yn gymesur. I gael gwared arno, does ond angen gwthio i lawr gyda'r cyhyrau pelfig, tynnu'r bwlch aer a grëwyd trwy osod bys wrth ymyl y cwpan a'i dynnu allan trwy dynnu'r tab.

Gosod Cwpan Untro, siâp Diaffram

[golygu | golygu cod]

Mae'r cwpan tafladwy yn cael ei baratoi trwy fflatio'r ymyl yn ei erbyn ei hun. Mewnosodir y cwpan tafladwy yng nghanol y llwybr vaginaidd a'i gwthio yn ei le yn agos at y serfics a'r tu ôl i'r asgwrn 'pubic'. Bydd siâp mewnol penodol y corff benywaidd yn ei dal yn ei le.

Arbed Arian a 'Thlodi Mislif'

[golygu | golygu cod]

Dros gyfnod bywyd, bydd defnyddio cwpwan mislif ail-ddefnyddiol yn arbed arian i'r fenyw ac yn arbed pwysau ar yr amgylchedd.

Bydd dynes mewn gwlad ddatblygiedig, fel Cymru, yn gwario, ar gyfartaledd $60 (£40) y flwyddyn ar tamponau neu padiau mislif. Yn ôl un astudiaeth o America, os yw dynes yn mislifo am 40 mlynedd, mae'n gwario $2,400 (£1,800) dros ei bywyd. Gyda bod cwpan mislif silicon yn para rhwng 1 a 5 mlynedd, byddai angen wyth dros gyfnod o 40 mlynedd. Os mai cost cwpan mislif yw US$30 (£23), yna'r gost dros gyfnod bywyd yw, oddeutu US$240 (£180). mae hynny'n arbediad posib dros £1,500, neu o 10% o gost tampon.[5]

Un ffactor yn erbyn parodrwydd menywod i arddel y cwpan mislif yw'r blaen-gost, yn enwedig i fenywod tlawd ac yn enwedig mewn gwledydd tlawd. Er bod defnyddio tampon neu pads yn ddrytach yn y tymor hir, maent yn rhatach o fis i fis.[6]

Ymgyrch Tamponau am Ddim

[golygu | golygu cod]

O gofio poblogrwydd ymgyrchoedd gan gynnwys yng Nghymru[7] i dynnu treth oddi ar tamponau neu darparu tamponau am ddim i ferched ysgol,[8] efallai y gellid, neu dylid ystyried, hysbysu merched o arbedion ariannol ac amgylcheddol defnyddio cwpan mislif.

Cwpan mislif y MoonCup

Rhoddwyd breinlen (patent) ar fersiwn gynnar o gwpan menstrual siâp cloch/bwled yn 1932, gan y grŵp bydwreigiaeth McGlasson a Perkins.[9] Patentiodd Leona Chalmers y cwpan masnachol y gellir ei ddefnyddio gyntaf yn 1937.[10] Patentwyd cwpanau mislif yn ddiweddarach yn 1935, 1937, a 1950. Cyflwynwyd brand Tassaway o gwpanau mislif yn y 1960au, ond nid oedd yn llwyddiant masnachol. Gwnaed cwpanau menywod cynnar o rwber.[11]

Yn 1987, cynhyrchwyd cwpan mislif rwber arall, The Keeper, yn yr Unol Daleithiau. Dyma'r cwpan menstrual fasnachol hyfyw cyntaf ac mae ar gael o hyd heddiw. Y cwpan menstrual cyntaf o silicon oedd y Mooncup a gynhyrchwyd gan y DU yn 2001. Bellach mae'r rhan fwyaf o gwpanau menstruol wedi'u cynhyrchu o silicon gradd meddygol oherwydd ei nodweddion gwydnwch a hypoallergenig, er bod brandiau hefyd wedi'u gwneud o TPE (elastomer thermoplastig). Mae cwpanau mislif yn dod yn fwy poblogaidd ledled y byd, gyda llawer o wahanol frandiau, siapiau a meintiau ar y farchnad.[2] Mae'r rhan fwyaf yn cael eu hailddefnyddio, er bod o leiaf un brand o gwpanau mislifl tafladwy sydd wedi'u cynhyrchu ar hyn o bryd.[2]

Mae rhai sefydliadau anllywodraethol (cyrff anllywodraethol) a chwmnïau wedi dechrau cynnig cwpanau menstruol i fenywod mewn gwledydd sy'n datblygu ers tua 2010, er enghraifft yn Cenia a De Affrica.[12] Mae cwpanau menstrual yn cael eu hystyried fel dewis arall sy'n gost-gyfeillgar ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd, i frethyn glanweithiol, padiau tafladwy drud neu "ddim byd" - y realiti i lawer o ferched mewn gwledydd sy'n datblygu.[13]

Er bod nifer o gwmnïau ar draws y byd yn cynnig y cynnyrch hwn, nid oedd yn hysbys eto o gwmpas 2010. Gall fod yn anodd i gwmnïau wneud elw o'r cynnyrch hwn gan y gall un cwpan menstrual barhau i ferch neu fenyw bum mlynedd neu fwy. Mae'r rhan fwyaf o ferched yn clywed am gwpanau menstruol trwy'r rhyngrwyd neu air lafar, yn hytrach na thrwy hysbysebu confensiynol ar deledu er enghraifft. O 2018, mae cwpanau mislif yn cael eu crybwyll yn fwy ac yn amlach ochr yn ochr â tamponau a phatiau mewn cyhoeddiadau ynghylch rheoli hylendid menywod.

Brandiau

[golygu | golygu cod]

Ceir sawl brand ar y farchnad gan gynnwys, Mooncup, Louloucup, Divacup.[2] Ymddengys bod y rhan fwyaf o fenywod yn clywed am y cwpannau mislif drwy geirda gan ffrindiau neu arbenigwyr meddygol.

Eitemau cysylltiedig

[golygu | golygu cod]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-15. Cyrchwyd 2018-11-02.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 https://youngwomenshealth.org/2013/03/28/period-products/
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-25. Cyrchwyd 2018-11-02.
  4. https://www.youtube.com/watch?v=H_O-X9EQfRw
  5. Caitlyn Shaye Weir, BSc Combined Honours, Environmental Science and Gender and Women Studies, Dalhousie University (2015) April 3rd, 2015
  6. https://www.susana.org/en/knowledge-hub/resources-and-publications/library/details/1569
  7. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/43976499
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-12. Cyrchwyd 2018-11-02.
  9. https://patents.google.com/patent/US1891761
  10. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3036176/
  11. https://www.mayoclinic.org/healthy-lifestyle/womens-health/expert-answers/menstrual-cup/faq-20058249
  12. https://www.susana.org/en/knowledge-hub/resources-and-publications/library/details/985
  13. https://www.susana.org/en/knowledge-hub/resources-and-publications/library/details/984