Enghraifft o'r canlynol | ideoleg wleidyddol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Athrawiaeth polisi tramor a ddatblygwyd gan yr Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer oedd cydfodolaeth heddychlon (Rwseg: мирное сосуществование). Roedd y syniadaeth hon yn groes i'r damcaniaethau rheiny a ffurfiwyd ar sail egwyddor "croesosodiad gelyniaethus", a dybiasai na allai'r gyfundrefn gomiwnyddol a'r gyfundrefn gyfalafol gydfodoli yn heddychlon yn y drefn ryngwladol.
Defnyddiwyd y term yn gyntaf yn y 1920au gan Vladimir Lenin i ddisgrifio'i ddymuniad o gysylltiadau heddychlon rhwng yr Undeb Sofietaidd a gwladwriaethau eraill y byd. Dros amser, datblygodd ei ystyr i grybwyll goruchafiaeth ideolegol comiwnyddiaeth, a'r gobaith y byddai'r system economaidd a gwleidyddol honno yn drech na chyfalafiaeth. Pwysleisiwyd y defnydd hwnnw gan Nikita Khrushchev yn niwedd y 1950au, a meddai taw "ffurf ar frwydr economaidd, gwleidyddol, ac ideolegol enbyd y proletariat yn erbyn grymoedd ymosodol imperialaeth yn yr arena ryngwladol". Er hynny, yn 1961 datganwyd barn wahanol gan Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd: "ni allai rhyfel fod yn fodd o gymodi anghydfodau rhyngwladol [...] Mae polisi cydfodolaeth heddychlon yn unol â diddordebau hanfodol y ddynolryw i gyd, ac eithrio meistradoedd y monopolïau mawrion a'r militarwyr". Bu nifer o wleidyddion, diplomyddion, ac ysgolheigion Americanaidd, gan gynnwys y llysgennad George Kennan, yn bwrw amheuaeth ar y posibiliad o gydfodolaeth heddychlon.[1] Gwrthodwyd y syniad o gydfodolaeth heddychlon â'r byd cyfalafol gan Mao Zedong, a bu ymhollti rhwng cysylltiadau Tsieina a'r Undeb Sofietaidd yn y cyfnod 1956–66.