Enghraifft o: | sefydliad elusennol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1957 ![]() |
Gwefan | https://friendsoffriendlesschurches.org.uk/ ![]() |
Elusen gofrestredig yw Cyfeillion Eglwysi Digyfaill (Saesneg: Friends of Friendless Churches). Mae'n ymgyrchu yng Nghymru a Lloegr i achub eglwysi hanesyddol nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio, ac sydd perygl o gael eu dymchwel, eu dadfeilio neu eu haddasu'n amhriodol. Fe'i ffurfiwyd ym 1957, ac erbyn 2019 roedd yn gyfrifol am 27 o eglwysi yng Nghymru a 26 yn Lloegr.[1]
Mae gan yr elusen rôl arbennig yng Nghymru. Ers 1999 cydnabuwyd ei fod yn cyfateb i'r Churches Conservation Trust ("Ymddiriedolaeth Cadwraeth Eglwysi") yn Lloegr. I'r perwyl hwnnw, ariennir 70% o gostau gofalu am eglwysi Anglicanaidd rhagorol yng Nghymru gan Cadw; darperir y 30% o gostau sy'n weddill gan yr Eglwys yng Nghymru.[2]